Alex Yee | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 18 Chwefror 1998 ![]() Lewisham ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | triathlete, rhedwr pellter canol ![]() |
Gwobr/au | MBE ![]() |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig ![]() |
Mae Alexander Amos Yee MBE (ganwyd 18 Chwefror 1998) yn driathletwr proffesiynol o Loegr. Enillodd y fedal aur yn Nhriathlon y Dynion yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024. Enillodd y fedal arian yn yr un digwyddiad a'r fedal aur yn y Ras Gyfnewid Gymysg Triathlon yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020. Mae hefyd yn bencampwr triathlon Gemau'r Gymanwlad 2022 yn nigwyddiadau'r dynion a'r timau cymysg.
Cafodd Yee ei eni yn Lewisham, Llundain, i dad Tsieineaidd[1], Ron Yee,[2] a mam o Loegr, Emma Amos Yee. [3][4] Astudiodd yn Ysgol Sylfaen Kingsdale yn West Dulwich. Aeth ymlaen i astudio am BSc ym Mhrifysgol Leeds Beckett.[5] [6]
Yn y triathlon yng Ngemau Olympaidd 2024 roedd yn yr ail safle ar ddechrau'r trydydd cymal, ond goddiweddodd yr arweinydd i ennill y fedal aur.[7]