Alexandra Roach | |
---|---|
Ganwyd | 23 Awst 1987 Rhydaman |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Actores o Gymraes ydy Alexandra Roach (ganed 23 Awst 1987).[1] Ymddangosodd yn yr opera sebon Pobol Y Cwm ar S4C pan oedd yn ei harddegau, gan ennill y wobr am yr Actor Ifanc Gorau mewn Opera Sebon yng Ngwobrau Plant ym myd Adloniant.[2] Mae hi hefyd wedi chwarae rhan y Margaret Thatcher ifanc yn The Iron Lady,[3] gyda Meryl Streep. Mae hi hefyd wedi'i dewis i chwarae rhan Molly yn yr addasiad newydd o nofel Michael Morpurgo Private Peaceful.[4]
Yn "Walter" (2015), chwaraeodd dditectif a'i iaith gyntaf oedd y Gymraeg.[5]
Roedd Roach yn gyflwynydd yn seremoni Gwobrau Cymru BAFTA 2017.[6]