Math | ardal boblog, bwrdeistref |
---|---|
Poblogaeth | 1,570 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC−03:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Río Senguer Department |
Gwlad | Yr Ariannin |
Uwch y môr | 715 metr |
Cyfesurynnau | 45.041917°S 70.823431°W |
Cod post | U9033 |
Tref yn Nhalaith Chubut, yr Ariannin, yw Alto Río Senguer. Mae'n brifddinas sir (departamento) Río Senguer yng ngorllewin y wlad, yn agos at y ffin â Tsile. Saif yn agos at yr Andes ar lan ogleddol Afon Senguerr.
Ar ddiwedd y 19g denodd y cwm cyfagos ymsefydlwyr a oedd yn chwilio am borfeydd mewn amgylchedd a oedd yn sych fel arall. Roedd yr ymsefydlwr a adeiladodd y tŷ parhaol cyntaf yn y lle, tua 1915, o darddiad Almaeneg, a galwyd yr anheddiad yn "Paso Schultz". Sefydlwyd y dref yn swyddogol yn 1943.
Yn ôl cyfrifiad 2010 roedd gan yr aneddiad boblogaeth o 1,570.[1]
Aldea Apeleg · Cerro Cóndor · Comodoro Rivadavia · Dolavon · Esquel · Gaiman · José de San Martín · Lago Blanco · Lago Puelo · Lagunita Salada · Las Plumas · Los Altares · Paso de Indios · Paso del Sapo · Porth Madryn · Puerto Pirámides · Rada Tilly · Rawson · Río Mayo · Río Pico · Sarmiento · Tecka · Telsen · Trelew · Trevelin · Veintiocho de Julio