Alun Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 24 Chwefror 1928 ![]() Pontypridd ![]() |
Bu farw | 11 Tachwedd 2018 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | awdur, newyddiadurwr cerddoriaeth ![]() |
Beirniad cerddoriaeth ac awdur am jazz o Gymro oedd Alun Morgan (24 Chwefror 1928 – 11 Tachwedd 2018).[1]
Ganwyd ym Mhontypridd. Magodd Morgan ei ddiddordeb mewn jazz fel plentyn yn ei arddegau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu Charlie Parker yn ddylanwad sylweddol arno yn y 1940au hwyr. Dechreuodd Morgan ysgrifennu am jazz yn y 1950au cynnar ar gyfer Melody Maker, Jazz Journal, Jazz Monthly a Gramophone. Am 20 mlynedd o 1969 bu'n awdur wythnosol colofn jazz mewn papur newydd lleol yn Swydd Caint. Yn ystod ei yrfa ysgrifennu bu'n gyfrifol am greu nodiadau clawr ar gyfer dros 2,500 o albymau, i gychwyn ar gyfer Recordiau Vogue. O 1954 bu'n cyfrannu at raglenni cerdd ar gyfer Radio'r BBC.
Roedd Morgan yn awdur llyfr ar jazz cyfoes yn Lloegr ac yn gyd-awdur nifer o lyfrau am recordiau jazz. Bu'n darlithio ar jazz yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall a'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.
Hyd ei ymddeoliad ym 1991 bu hefyd yn gweithio fel pensaer. Ychydig wedi ei ymddeoliad ymfudodd i Awstralia.[2]