Amgueddfa awyr-agored sy'n cofnodi hanes pensaernïaeth, diwylliant a ffordd o fyw y Cymry yw Amgueddfa Werin Cymru. Mae'n rhan o Amgueddfa Cymru. Lleolir yr amgueddfa yn nhiroedd castell Sain Ffagan, ar gyrion Caerdydd.
Mae'r amgueddfa yn nodedig am ei chasgliad o adeiladau traddodiadol a symudwyd yno o bob rhan o Gymru, carreg wrth garreg. Mae'n gofnod gwerthfawr o hanes y genedl ac er mwyn arddangos ac astudio agweddau ar ddiwylliant Cymru o'r 15g ymlaen, gan gynnwys pensaernïaeth draddodiadol, crefftau, offer amethyddol, llên gwerin, dillad, ac ati. Mae yno hefyd nifer o dai Celtaidd wedi'u codi ac arteffactau o'r cyfnod ynghyd ag elfen o ail-greu ac ail-actio cyfnod o'n hanes.
Syniad y bardd a'r arbenigwr llên gwerin Iorwerth C. Peate oedd sefydlu'r amgueddfa, ar sail Skansen, sef amgueddfa awyr-agored pensaernïaeth brodorol Sweden yn Stockholm. Ond roedd rhan fwyaf o adeiladau Skansen yn rai pren, a byddai amgueddfa tebyg yng Nghymru yn naturiol yn fwy uchelgeisiol ocherwydd fod adeiladau brodorol Cymru wedi eu adeiladu o gerrig yn bennaf. Dechreuwyd y gwaith o ddatblygu'r amgueddfa ym 1946 yn dilyn y rhodd o'r castell a'i thiroedd gan Iarll Plymouth, agorodd yn swyddogol ym 1948. Peate oedd y curadur cyntaf, ac fe'i olynwyd gan Trefor M. Owen.
Cynlluniwyd prif adeilad yr amgueddfa gan Dale Owen, yn gweithio ar gyfer Partneriaeth Percy Thomas, ac fe'i adeiladwyd rhwng 1968 a 1974.[1] Enillodd y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 1978.[2]
Llun
|
Enw
|
Dyddiad
|
Ail-godwyd
|
Safle wreiddiol
|
Sir (traddodiadol)
|
Sir (presennol)
|
Nodiadau pellach
|
|
Pentre Celtaidd
|
—
|
1992
|
Sain Ffagan
|
—
|
Caerdydd
|
Replica ar sail adfeilion yng Ngwynedd, Sir y Fflint a Swydd Gaerwrangon.[3]
|
|
Ffermdy Hendre'r Ywydd Uchaf
|
1508[4]
|
1962
|
Llangynhafal
|
Sir Ddinbych
|
Sir Ddinbych
|
|
Eglwys Sant teilo
|
1100 - 1520
|
2007[4]
|
Llandeilo Tal-y-bont, Pontarddulais
|
Sir Forgannwg
|
Abertawe
|
Ymddengys fel yr oedd tua 1510-30[5]
|
|
Ffermdy Cilewent
|
Dechreuwyd 1470
(Ffurf bresennol: 1734)
|
1959
|
Llansanffraid Cwmdeuddwr, Rhaeadr Gwy
|
Sir Drefaldwyn
|
Powys
|
|
Y Garreg Fawr
|
1544[4]
|
1984
|
Waunfawr
|
Sir Gaernarfon
|
Gwynedd
|
|
Ysgubor Stryt Lydan
|
tua 1550
|
1951
|
Llannerch Banna
|
Sir y Fflint
|
Wrecsam
|
[6]
|
|
Castell Sain Ffagan
|
1580
|
—
|
Sain Ffagan
|
Sir Forgannwg
|
Caerdydd
|
|
|
Ysgubor Hendre Wen
|
Tua 1600
|
1982
|
Llanrwst
|
Sir Ddinbych
|
Conwy
|
|
|
Talwrn Dinbych
|
17g
|
1970
|
Hawk and Buckle Inn, Dinbych
|
Sir Ddinbych
|
Sir Ddinbych
|
|
|
Ffermdy Kennixton
|
1610
|
1955
|
Llangynydd
|
Sir Forgannwg
|
Abertawe
|
Ailgodwyd y ffermdy yn wreidddiol heb yr adeiladau fferm cyfagos, oherwydd bod y rhain dal yn cael eu defnyddio, ond yn 2007 fe'u cynigwyd i'r amgueddfa.[7]
|
|
Ffermdy Abernodwydd
|
1678
|
1955
|
Llangadfan
|
Sir Faldwyn
|
Powys
|
|
|
Efail Llawr-y-Glyn
|
18g
|
1972
|
Llawr-y-Glyn
|
Sir Drefaldwyn
|
Powys
|
|
|
Tanerdy Rhaeadr Gwy
|
hwyr yn y 18g
|
1968
|
Rhaeadr Gwy
|
Sir Drefaldwyn
|
Powys
|
|
|
Melin Wlân Esgair Moel
|
1760
|
1952
|
Llanwrtyd
|
Sir Frycheiniog
|
Powys
|
|
|
Bwthyn Llainfadyn
|
1762
|
1962
|
Rhostryfan
|
Sir Gaernarfon
|
Gwynedd
|
|
|
Bwthyn Nant Wallter
|
Tua 1770
|
1993
|
Taliaris
|
Sir Gaerfyrddin
|
Sir Gaerfyrddin
|
|
|
Tolldy Penparcau
|
1772
|
1968
|
Penparcau, Aberystwyth
|
Sir Aberteifi
|
Ceredigion
|
|
|
Capel Pen Rhiw
|
1777
|
1956
|
Dre-fach Felindre
|
Sir Gaerfyrddin
|
Sir Gaerfyrddin
|
|
|
Beudy Cae Adda
|
18fed–19eg ganrif
|
2003
|
Waunfawr
|
Sir Gaernarfon
|
Gwynedd
|
|
|
Twlc mochyn Hendre Ifan Prosser
|
tua 1800
|
1977
|
Hendre Ifan Prosser
|
Sir Forgannwg
|
Rhondda Cynon Taf
|
|
|
Bythynnod Rhyd-y-Car
|
Tua 1800
|
1986
|
Rhyd-y-Car, Merthyr Tudful
|
Sir Forgannwg
|
Merthyr Tudful
|
Chwech o dai teras wedi eu creu i gynrychioli chwe chyfnod cronolegol yn ystod y diwydiant haearn: 1805, 1855, 1895, 1925, 1955, 1985
|
|
Ffermdy Llwyn-yr-Eos
|
Dechreuwyd 1820
|
—
|
Sain Ffagan
|
Sir Forgannwg
|
Caerdydd
|
Fferm wreiddiol o ystâd Castell Sain Ffagan. Agorwyd fel rhan o'r amgueddfa ym 1989.
|
|
Melin ŷd Bompren
|
1852–
|
1977
|
Cross Inn
|
|
Ceredigion
|
|
|
Sied wair
|
1870
|
1977
|
Maentwrog
|
|
Gwynedd
|
Dim ond y tirfeddianwyr cyfoethocaf oedd yn codi'r fath siediau gwair ar gyfer eu deiliaid.[8]
|
|
Tŷ haf
|
tua 1880
|
1988
|
Parc Bute, Caerdydd
|
Sir Forgannwg
|
Caerdydd
|
|
|
Siop Gwalia
|
1880
|
1991
|
Cwm Ogwr, ger Pen-y-bont ar Ogwr
|
Sir Forgannwg
|
Pen-y-bont ar Ogwr
|
Ymddengys fel yr oedd yn y 1920au
|
|
Ysgol Maestir
|
defnyddiwyd 1880–1916
|
1984
|
Llanbedr Pont Steffan
|
Sir Aberteifi
|
Ceredigion
|
|
|
Melin lifo Llanddewi Brefi
|
1892
|
1994
|
Tŷ'n Rhos, Llanddewi Brefi
|
|
Ceredigion
|
|
|
Siop teiliwr Cross Inn
|
1896 (ymhelaethwyd 1920au)
|
1992
|
Cross Inn
|
|
Ceredigion
|
|
|
Crochendy Ewenni
|
tua 1900
|
1988
|
Ewenni
|
Sir Forgannwg
|
Bro Morgannwg
|
|
|
Popty'r Dderwen
|
1900
|
1987
|
Thespian Street, Aberystwyth
|
Sir Aberteifi
|
Ceredigion
|
Caewyd 1924
|
|
Institiwt y Gweithwyr, Oakdale
|
1916
|
1995
|
Oakdale, Y Coed Duon
|
Sir Fynwy
|
Caerffili
|
|
|
Gweithdy Cyfrwywr
|
1926
|
1986
|
Sanclêr
|
Sir Gaerfyrddin
|
Sir Gaerfyrddin
|
|
|
Tŷ Masnachwr
|
1580
|
2012
|
Hwlffordd
|
Sir Benfro
|
Sir Benfro
|
|
|
Swyddfa bost
|
1936
|
1992
|
Blaen-waun, ger Hendy-gwyn ar Daf
|
Sir Gaerfyrddin
|
Sir Gaerfyrddin
|
Ymddengys fel yr oedd yn yr Ail Ryfel Byd[9]
|
|
Pre-fab
|
1948
|
1998
|
Gabalfa
|
Sir Forgannwg
|
Caerdydd
|
Ymddengys fel yr oedd tua 1950[10]
|
|
Tŷ Gwyrdd ("Tŷ'r Dyfodol" yn wreiddiol)
|
2001[11]
|
Sain Ffagan
|
—
|
Caerdydd
|
Ar y cyd gyda'r BBC. Ysbrydolwyd gan ddulliau adeiladau traddodiadol a thechnoleg werdd.[12]
|
|
|
Bryn Eryr
|
|
2016
|
Llansadwrn
|
Sir Fôn
|
Caerdydd
|
|
|
Llys Llewelyn (Llys Rhosyr)
|
1200s
|
2016–18 (ail-greu)
|
Rhosyr
|
Sir Fôn
|
Sir Fôn
|
}
|
|
Tafarn y Vulcan
|
|
|
Caerdydd
|
|
|
—
|
Mae'r amgueddfa wedi cynnal yr "Everyman Open Air Theatre Festival" (a ddechreuodd ym 1983) ers 1996,[13] pan symudwyd yno o Erddi Dyffryn ger Casnewydd. Mae'r ŵyl yn cynnwys drama Shakespeare, cynhyrchiad gerddorol a sioe ar gyfer y teulu, ac mae wedi dod yn rhan elfennol o galendr theatr yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf.
Ffilmwyd y rhan fwyaf o benodau Doctor Who "Human Nature" a "The Family of Blood" yn Sain Ffagan. Ffilmiwyd penodau Poldark yno hefyd.