Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Gwlad Iorddonen |
Cenedl neu deyrnas hynafol Semitaidd eu hiaith oedd Ammon i'r dwyrain o'r Iorddonen, rhwng dyffrynnoedd Arnon a Jabbok, a leolir yng Ngwlad Iorddonen heddiw.[1][2]
Prif ddinas y wlad oedd Rabbah neu Rabbath Ammon, ac yma y saif dinas fodern Amman, prifddinas Gwlad Iorddonen. Mae Milcom a Molech (a all fod yr un) yn cael eu henwi yn y Beibl Hebraeg fel duwiau Ammon, felly gelwir pobl y deyrnas hon yn "Blant Ammon", "Amonitiaid" neu "Amoniaid".[3][4]
Gelwir y tirigaeth ehangach, lle lleolir Ammon yn "Llwyfandiroedd Traws-Iorddonen Ganol", ardal a wladychwyd gan yr Amoniaid o ddiwedd yr ail fileniwm CC hyd at (o leiaf) yr ail ganrif ÔC. Llwyddodd yr Amoniaid i gadw'n annibynnol oddi wrth Ymerodraeth Newydd Assyria drwy dalu gwrogaeth i frenin yr Asyriaid, ond llyncwyd sawl brenhiniaeth arall gan yr Asyriaid gan iddyn wrthod talu gwrogaeth, gan greu teyrnas enfawr Assyria. Nodir ar fonolithau Kurkh i Baasha ben Ruhubi, brenin yr Amoniaid ymladd ochr-yn-ochr â Ahab (o gynghrair rhwng Israel a Syria) yn erbyn Shalmaneser III ym mrwydr Qarqar yn 853 BC, fwy na thebyg gan gynrychioli Hadadezer, brenin Aramag Damascus. Yn 734 BC roedd yr Ammonit Sanipu yn frenin a gynrychiolodd (neu'n ddeiliad) Tiglath-Pileser III.[5]
Dengys archeoleg a hanes yn dangos bod Ammon wedi ffynnu yn ystod cyfnod yr Ymerodraeth Newydd Assyria. Mae hyn yn groes i'r farn glasurol, i Draws-Iorddonen naill ai gael ei ddinistrio gan Nebuchadnezzar II, neu wedi dioddef dirywiad cyflym yn dilyn dinistr Jwda gan y brenin hwnnw. Mae tystiolaeth newydd yn awgrymu bod Ammon wedi llewyrchu o'r cyfnod Neo-Babylonian i'r cyfnod Persiaidd.[6]
Fodd bynnag, ychydig o sôn a geir am yr Amoniaid drwy'r cyfnodau Persiaidd a'r Oes Helenistaidd cynnar, ond ymddengys yr Amoniaid yn ystod cyfnod y Macabeiaid (Hebraeg: "Maqabim"). Gwnaeth yr Amoniaid, gyda rhai o'r llwythau cyfagos, eu gorau glas i wrthsefyll yr Iddewon o dan Judas Maccabaeus.[5][7]
Mae cofnod olaf o'r Amoniaid i'w gael yn yr 2il ganrif CC yn Nialog Iustinus Martyr gyda Trypho lle mae'n cadarnhau fod y genedl yn dal i fodoli.[5][8]