Amy Johnson | |
---|---|
Ganwyd | 1 Gorffennaf 1903, 1904 Kingston upon Hull |
Bu farw | 5 Ionawr 1941 Aber Tafwys |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hedfanwr, peiriannydd, peilot gleiderau |
Swydd | Llywydd Cymdeithas Perianeg y Merched |
Cyflogwr | |
Tad | John William Johnson |
Mam | Amy Hodge |
Priod | Jim Mollison |
Gwobr/au | CBE, Gwobr Harmon, Gwobr Ryngwladol Menywod am Hedfan, Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Segrave Trophy |
Roedd Amy Johnson CBE (1 Gorffennaf 1903 – a diflannodd ar 5 Ionawr 1941) yn beilot arloesol o Loegr a hi oedd y fenyw gyntaf i hedfan ar ei phen ei hun o Lundain i Awstralia .
Llwyddodd i osod sawl record hedfan dros bellter hir yn ystod y 1930au, a hynny wrth hedfan ar ei phen ei hun neu gyda'i gŵr, Jim Mollison. Ym 1933, Johnson oedd yr ysbrydoliaeth i gymeriad Katharine Hepburn yn y ffilm Christopher Strong. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd hedfanodd fel rhan o'r Air Transport Auxiliary a diflannodd yn ystod taith fferi. Bu llawer o drafod am nifer o flynyddoedd ynghylch union achos ei marwolaeth.
Ganwyd Amy Johnson yn 1903 yn Kingston upon Hull, East Riding, Swydd Efrog. Roedd hi'n ferch i Amy Hodge, wyres i William Hodge, Maer Hull, a John William Johnson yr oedd ei deulu yn fasnachwyr pysgod gydag Andrew Johnson, Knudtzon a'r Cwmni. Hi oedd yr hynaf o dair chwaer, a'r chwaer agosaf iddi o ran oedran oedd Irene a oedd flwyddyn yn iau.[1]
Addysgwyd Johnson yn Ysgol Uwchradd Ddinesig Boulevard ( Ysgol Uwchradd Kingston yn ddiweddarach) a Phrifysgol Sheffield, lle graddiodd gyda gradd Baglor yn y Celfyddydau mewn economeg. Bu'n gweithio wedyn yn Llundain fel ysgrifennydd i'r cyfreithiwr William Charles Crocker. Dechreuodd hedfan fel hobi, gan ennill tystysgrif awyrenwyr, Rhif 8662, ar 28 Ionawr 1929, a thrwydded peilot "A", Rhif 1979, ar 6 Gorffennaf 1929. Llwyddodd i wneud hynny dan ofal y Capten Valentine Baker yng Nghlwb Awyrennau Llundain. Yn yr un flwyddyn, hi oedd y fenyw Brydeinig gyntaf i ennill trwydded "C" peiriannydd llawr.[2]
Roedd Johnson yn ffrind ac yn gydweithiwr i Fred Slingsby. Ei gwmni ef, sef Slingsby Aviation o Kirbymoorside, Gogledd Swydd Efrog, oedd cwmni gleiderau enwocaf y DU. Cyfrannodd Slingsby at sefydlu Clwb Gleidio Swydd Efrog yn Sutton Bank ac roedd Amy Johnson yn aelod yno yn ystod y 1930au, a chafodd ei hyfforddi yno.[3][4]
Cafodd Johnson yr arian ar gyfer ei hawyren gyntaf gan ei thad, a oedd bob amser yn un o'i chefnogwyr mwyaf, a'r Arglwydd Wakefield .[5] Prynodd hi de Havilland DH.60 Gipsy Moth G-AAAH ail-law a'i enwi'n Jason ar ôl nod masnach busnes ei thad.[6] [Note 1]
Hi oedd y fenyw gyntaf i hedfan ar ei phen ei hun o Loegr i Awstralia a gwnaeth hynny yn 1930. Cafodd Johnson gydnabyddiaeth fyd-eang pan wnaeth hynny. Gadawodd Maes Awyr Croydon, Surrey yn yr awyren G-AAAH Jason ar 5 Mai a glaniodd yn Darwin, Tiriogaeth y Gogledd ar 24 Mai, sef taith o 11,000 o filltiroedd (18,000 km).[7] Chwe diwrnod yn ddiweddarach, difrodwyd ei hawyren oherwydd gwynt cryf wrth lanio ym maes awyr Brisbane. Hedfanodd i Sydney gyda'r Capten Frank Follett tra yr oedd ei hawyren yn cael ei thrwsio. Yn ddiweddarach hedfanwyd Jason i Mascot, Sydney, gan y Capten Lester Brain .[8] Mae Jason bellach mewn arddangosfa barhaol yn Oriel Hedfan yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain .
I gydnabod y gamp hon, derbyniodd Amy Johnson Dlws Harmon yn ogystal â CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd George V yn 1930. Cafodd ei hanrhydeddu hefyd â thrwydded peilot sifil Rhif 1 yn ôl Rheoliadau Mordwyo Awyr Awstralia 1921.[9]