Anjela Duval | |
---|---|
Ganwyd | Marie Angèle Duval 3 Ebrill 1905 Ar C'houerc'had |
Bu farw | 7 Tachwedd 1981 Lannuon |
Dinasyddiaeth | Ffrainc, Llydaw |
Galwedigaeth | bardd, llenor, gwleidydd lleol |
Bardd o Lydaw oedd Anjela Duval (3 Ebrill 1905 - 7 Tachwedd 1981). Mae ei cherddi yn datgelu cariad pendant tuag at natur, dicter yn erbyn dirywiad yr iaith Llydaweg, a'i synnwyr digrifwch.
Fe’i ganwyd yn Ar C’houerc’had (Vieux-Marché), ger Plouared Aodoù-an-Arvor a bu farw yn Lannuon, Aodoù-an-Arvor.
Roedd hi’n unig ferch i deulu oedd yn ffermio (bu farw y lleill yn ifanc), a chymerodd y fferm drosodd wedi farw ei rhieni (ei thad 1941, ei mam 1951). Collodd ei chwaer hŷn Maia (a fu farw yn ddeg oed, ond a erys mewn rhai cerddi) a’i brawd Charles wedi marw cyn iddi gael ei geni. Am ddegawdau oedd hi ar ei phen ei hun, ac wedi aros yn sengl am fod “an hini a garen. Ne gare ket pezh a garan” (Yr un a garaf. Nid yw e’n caru y pethau dw i’n ei charu) - am fod ei dyweddi, morwr a oedd yn canlyn a hi 1924-1926 wedi gofyn iddi adael Llydaw.
Roedd hi’n ffermwraig tlawd a syml oedd yn ysgrifennu ei cherddi ar ôl diwrnod caled o waith yn y caeau mewn llyfr nodiadau ysgol yn ei thyddyn bach yn nhreflan Traoñ an Dour. Roedd hi wedi dysgu darllen ei chatecism Llydaweg ers pan oedd hi'n ifanc iawn, ond ni ddechreuodd ysgrifennu tan y 1960au. Aeth i ysgol o wyth i ddeuddeg oed dan ofal lleianod ond, ar ôl iddi dioddef o glefyd yr esgyrn trodd at gyrsiau gohebiaeth i ferched ifanc o ardaloedd gwledig. Felly ymdriniodd â'r iaith Ffrangeg yn eithaf da. Daeth dan dylanwad cylchgronau Llydaweg fel Ar Bed Keltiek, cylchgrawn dan olygyddiaeth Roparz Hemon, un o brif lenorion y Llydaweg. Honnir hefyd bod y Tad Marsel Klerg, cyfarwyddwr y cylchgrawn Catholig Barr-heol, wedi'i hysgogi i gyhoeddi ei cherddi.
Ysgrifennodd Gilles Servat, canwr Llydewig enwog a ddysgodd Llydaweg ganddi hi, gân amdani o'r enw Traoñ an Dour. Dywed ef ei fod yn deall Llydaweg ond heb ei siarad, atebodd Anjela Duval: "fel fy nghi ...". Daeth hi yn amlwg yn y byd Ffrengig ar sioe teledu André Voisin Les Conteurs yn 1971. Cyhoeddwyd ei gweithiau cyflawn ,Oberenn glok yn 2000 (bu farw y 1981). Gwerthwyd dros 1000 o gopïau ac fe'u hailgyhoeddwyd yn 2005 ar achlysur canmlwyddiant ei eni. Yn 2011 mae’r gymdeithas Anjela-Duval wedi casglu arian i godi cerflun gwenithfaen ohoni yn y Place du Vieux-Marché .
Ceir rhai o'i gerddi enwocaf eu canu gan artistiaid Llydewig gyfoes fel:
Mae nifer o'i gerddi yn albwm Yann Thiersen, EUSA, a ryddhawyd yn 2016.