Anthony Holden | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mai 1947 Southport |
Bu farw | 7 Hydref 2023 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, cofiannydd, llenor, cyfieithydd, beirniad cerdd, chwaraewr pocer |
Prif ddylanwad | Ivan Sharpe |
Tad | John Holden |
Mam | Margaret Lois Sharpe |
Priod | Amanda Juliet Warren, Cynthia Blake |
Plant | Samuel Ivan Holden, Joseph Anthony Holden, Benjamin John Holden |
Chwaraeon |
Bywgraffydd, beirniad llenyddol a cherddoriaeth, newyddiadurwr, a darlledwr o Loegr oedd Anthony Ivan Holden (22 Mai 1947 – 7 Hydref 2023).
Ganed Anthony Ivan Holden ar 22 Mai 1947 yn Southport, Swydd Gaerhirfryn (bellach o fewn ffiniau Glannau Merswy), yn fab i John a Margaret (Sharpe gynt) Holden.[1] Barwnigion a ddisgynnai o fasnachwyr cotwm oedd y teulu Holden, ond mab iau oedd John ac felly ni etifeddodd unrhyw deitl. Dylanwadwyd ar Anthony yn ei fachgendod gan ei daid ar ochr ei fam, y newyddiadurwr chwaraeon a chyn-bêl droediwr Ivan Sharpe. Cafodd brofiad anhapus yn Nhŷ Trearddur, ysgol baratoi yn Ynys Môn, cyn mynychu Oundle, ysgol fonedd yn Swydd Northampton. Yno teimlodd yn anaddas yng nghwmni meibion y dosbarth uchel, ac o'r herwydd meddai'n ddiweddarach iddo gael ei droi'n "Lafur am oes".[2]
Astudiodd Saesneg yng Ngholeg Merton, Rhydychen, a threuliodd ei amser rhydd yn barddoni ac yn golygu'r cylchgrawn myfyrwyr Isis. Ymhlith ei gyfeillion yn y brifysgol oedd Christopher Hitchens, Martin Amis, a Gyles Brandreth. Bu'n ymwneud â Chymdeithas Ddramatig Prifysgol Rhydychen (OUDS), gan gyfarwyddo perfformiadau a chyfieithu gweithiau gan Aeschulos a'r Hen Roegiaid eraill i'r Saesneg. Cyhoeddwyd nifer o'i drosiadau gan wasg Prifysgol Caergrawnt.[2] Ymddangosodd hefyd ar y gyfres deledu University Challenge.[1]
Cychwynnodd Holden ar swydd dan hyfforddiant gyda Thomson Newspapers ym 1970, ac erbyn 1973 fe'i cyflogwyd yn ohebydd i'r Sunday Times, dan olygyddiaeth Harold Evans. Gobaith Holden oedd ei gael ei benodi i "Insight", y tîm enwog o newyddiadurwyr ymchwiliol y papur, ond cafodd ei ystyried yn rhy "artsy". Er gwaethaf, cafodd ei anfon yn ohebydd rhyfel i sawl man yng nghanol y 1970au, gan gynnwys Israel a'r Sahara Sbaenaidd, ac enillodd anrhydedd Gohebydd Newyddion y Flwyddyn yng Ngwobrau'r Wasg Brydeinig ym 1976 am ei adroddiadau o Ogledd Iwerddon. Penodwyd yn olygydd "Atticus", colofn ddyddiadur y Sunday Times, ym 1977 a byddai'n cyfweld â nifer fawr o enwogion, ac ysgrifennodd sawl portread newyddiadurol o Siarl, Tywysog Cymru. Ym 1978, cyflwynodd y Tywysog Siarl wobr Colofnydd y Flwyddyn i Holden yn seremoni Gwobrau'r Wasg Brydeinig.[2]
Symudodd Holden i The Observer ym 1979, gan gymryd swydd gohebydd yn Washington, D.C. Dychwelodd i weithio i Harold Evans ym 1981 wedi i'r hwnnw gael ei benodi'n olygydd The Times, a phenodwyd Holden yn olygydd yr ysgrifau nodwedd. Fodd bynnag, wedi un flwyddyn yn y swydd, diswyddwyd Evans gan Rupert Murdoch, perchennog y Times, ac ymddiswyddodd Holden i ddangos cefnogaeth i'w fos.
Byddai Holden yn bwrw ei swydd gyflogedig olaf yn y wasg Lundeinig yn golygu argraffiadau penwythnos Today, tabloid a sefydlwyd gan y dyn busnes Eddy Shah ym 1986. Wedi 10 wythnos, gwerthwyd y papur a chafodd Holden ei ddiswyddo. Wedi hynny, ysgrifennai erthyglau a cholofnau ar liwt ei hun ar gyfer y Daily Mail a'r Daily Express. Cyfrannodd feirniadaeth cerddoriaeth glasurol i un o'i hen gyflogwyr, The Observer, o 2002 i 2008.
Yn ystod ei oes, cyhoeddodd Holden fwy na 40 o lyfrau i gyd. Ysgrifennodd sawl gwaith am y Tywysog Siarl, ac hefyd bywgraffiadau o Laurence Olivier, Pyotr Tchaikovsky, William Shakespeare, a Leigh Hunt. O ganlyniad i'w ymchwil i deulu brenhinol y Deyrnas Unedig, a'i gyfeillgarwch â'r Dywysoges Diana, trodd Holden yn weriniaethwr.[3] Bu ei gyfrol The St Albans Poisoner (1974), am hanes y llofrudd Graham Young, yn sail i'r ffilm The Young Poisoner's Handbook (1995). Hoff ddifyrwaith Holden oedd chwarae pocer, ac ysgrifennodd sawl llyfr am y gêm. Gwasanaethodd yn llywydd cyntaf y Ffederasiwn Pocer Rhyngwladol, o 2009 i 2013.[4][5] Cyhoeddodd ei hunangofiant, Based on a True Story, yn 2021.
Priododd Holden ym 1971 ag Amanda Warren, merch i Syr Brian Warren, meddyg personol y Prif Weinidog Edward Heath. Cawsant dri mab: Ben, Sam, a Joe. Bu'r ddau ohonynt yn cyfieithu libretos o operâu Eidaleg i'r Saesneg.[2] Diddymwyd y briodas ym 1988, a phriododd Holden am yr eildro ym 1990 â'r awdures Americanaidd Cynthia "Cindy" Blake. Ymwahanodd y cwpl yn 2000, ond ni chawsant ysgariad.[1] Dioddefodd o strôc yn 2017 a bu'n defnyddio cadair olwyn am chwe mlynedd olaf ei oes. Bu farw Anthony Holden ar 7 Hydref 2023 yn 76 oed, o ganlyniad i ôl-effeithiau'r strôc a thiwmor yr ymennydd.[1]