Math | ynys |
---|---|
Prifddinas | Saint John's |
Poblogaeth | 80,161 |
Cylchfa amser | UTC−04:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Leeward, Antilles Leiaf, British Leeward Islands, Ynysoedd y Windward |
Lleoliad | Y Caribî |
Sir | Antigwa a Barbiwda |
Gwlad | Antigwa a Barbiwda |
Arwynebedd | 281 km² |
Gerllaw | Môr y Caribî |
Cyfesurynnau | 17.085°N 61.8°W |
Ynys yn y Caribî yw Antigwa. Mae'n ffurfio rhan o wlad Antigwa a Barbiwda.
Mae gan yr ynys arwynebedd o 280 km², a phoblogaeth o tua 80,161 (yng nghyfrifiad 2011).[1] Dinas fwyaf yr ynys, a phrifddinas Antigwa a Barbiwda, yw Saint John's. Mae'r economi yn ddibynnol ar dwristiaeth yn bennaf, gyda'r diwydiant amaeth yn gwasanaethu'r farchnad ar yr ynys.
Cyrhaeddodd Christopher Columbus yr ynys yn 1493, a'i henwi ar ôl eglwys gadeiriol Sevilla, Santa Maria la Antigua. Ceisiodd y Prydeinwyr feddiannu'r ynys yn 1632, ond fe'u gyrrwyd ymaith gan y trigolion brodorol, y Caribiaid. Dychwelasant yn 1663 a chipio'r ynys.