Aquiles Nazoa | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mai 1920 Caracas |
Bu farw | 25 Ebrill 1976 o damwain cerbyd Caracas |
Dinasyddiaeth | Feneswela |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr, llenor, sgriptiwr |
llofnod | |
Newyddiadurwr, ysgrifwr, a bardd Sbaeneg o Feneswela oedd Aquiles Nazoa (17 Mai 1920 – 25 Ebrill 1976). Ystyrir yn yr awdur ffraeth gorau yn llên Feneswela, a'i waith yn nodweddiadol o ddiwylliant poblogaidd y wlad[1] ac yn adlewyrchu gwerthoedd a chredoau'r dosbarth gweithiol.[2]
Ganwyd yn Caracas i deulu tlawd, a dechreuodd weithio yn 12 oed i ennill arian i'w deulu. Cafodd swyddi saer, teleffonydd, a chlerc, cyn iddo ddysgu teipograffeg a darllen proflenni tra'n gweithio fel paciwr i'r papur newydd El Universal.[2]
Dechreuodd gyhoeddi llyfrau yn y 1940au, a daeth i sylw'r byd llenyddol gyda'i gyfrol El transeúnte sonreído (1945). Sefydlodd y cylchgronau ysmala La Pava Macha a El Tocador de Señoras, ac ysgrifennodd i'r cylchgronau Sábado de Colombia, Élite, ac El Morrocoy Azul. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr papur newydd El Verbo Democrático (Puerto Cabello), y cyhoeddiad Ciwbaidd Zig-Zag (La Habana), a chylchgrawn Fantoches.[1] Enillodd Nazoa y Wobr Genedlaethol am Newyddiaduraeth yn 1948 a'r Wobr Lenyddol Ddinesig yn 1967.[2]
Bu farw mewn damwain ffordd ar y briffordd rhwng Caracas a Valencia yn 55 oed. Roedd ei frawd iau, Aníbal Nazoa, hefyd yn fardd.[1]