Australopithecus sediba Amrediad amseryddol: 1.98–1.977 Miliwn o fl. CP Pleistosen cynnar | |
---|---|
Penglog "Karabo" | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primatiaid |
Teulu: | Hominidae |
Genws: | †Australopithecus |
Rhywogaeth: | †A. sediba |
Enw deuenwol | |
†Australopithecus sediba Berger et al., 2010[1] |
Hominid a math o Australopithecus a fu'n byw ar y Ddaear yn ystod y Pleistosen oedd Australopithecus sediba (neu A. sediba). Mae'r ffosilau o'i esgyrn yn perthyn i gyfnod o tua dwy filiwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).
Erbyn 2018 roedd chwech ysgerbwd wedi eu darganfod mewn ardal gyfoethog o ffosiliau: y Malapa yn Ne Affrica, gan gynnwys ffosil o laslanc (MH1 neu "Karabo"),[2] oedolyn benywaidd (MH2), oedolyn gwrywaidd a thri o blant bach.[1][3] Canfyddwyd yr holl ffosiliau yn yr un ogof, ble ymddengys iddynt ddisgyn i'w marwolaeth rhwng 1.977 ac 1.980 CP.[4][5]
Cafwyd hyd i dros 220 ffosil o'r rhywogaeth hon erbyn 2016.[1] Disgrifiwyd yr ysgerbydau'n wreiddiol mewn dau bapur yn y dyddlyfr Science gan y paleoanthropolegydd Lee R. Berger o Brifysgol Witwatersrand, Johannesburg a chydweithwyr iddo. Bathwyd y gair 'sediba' ganddo i ddisgrifio'r rhywogaeth newydd hon; ystyr "sediba" yn yr iaith Sotho yw "ffynnon".[1] Mae 34% o MH1 yn gyflawn ond nid yw'r cymalau'n sownd yn ei gilydd, a 45.6% o MH2 gyda rhai o'r prif esgyrn yn cysylltu a'i gilydd.[6]
Safana oedd tiriogaeth yr Australopithecus sediba a ffrwyth y fforest fyddai ei fwyd pob dydd, mae'n debyg - yn reit debyg i tsimpansîs yr ardal heddiw. Oherwydd yr amgylchiadau eithriadol, trodd eu hesgyrn yn ffosiliau gan eu prisyrfio'n dda. Roedd yn bosib i'r gwyddonwyr echdynnu phytolithiau planhigion o blac deintiol y dannedd.[7][8][9]
Canfyddwyd y sbesimen cyntaf o A. sediba gan fab y paleoanthropolegydd Lee Berger: a oedd yn naw oed ar y pryd a hynny ar 15 Awst 2008.[10] Archwilio'r bryniau a'u creigiau dolomit gyda'i dad oedd Matthew, ychydig i'r gogledd o Johannesburg pan welodd y ffosiliau mewn lwmp o garreg.[10] Galwodd ar ei dad a syfrdanwyd yntau gan yr hyn a welodd: pont ysgwydd hominid. Pan drodd y garreg ar ben ei waered gwelodd enau dynol gyda dant yn stico mas ohoni. "Bron i mi farw!" oedd ebychiad y tad yn ddiweddarach.[10] Credir fod y glaslanc gwrywaidd (perchennog y ffosiliau hyn) yn 4 tr 2 fodf (1.27 m).[10] Gwnaed hyn yn gyhoeddus ar 8 Ebrill 2010.
Canfuwyd ffosiliau o anifeiliaid eraill yn yr ogof, gan gynnwys teigr ysgythrog, mongŵs a sawl math o antelop.[10] Credir iddynt ddisgyn i lawr twll 100–150-tr (30–46 m) o ddyfnder a i mewn i'r ogof o ddŵr calchog a fu'n gymorth i'w ffosileiddio a'u prisyrfio mor dda.[10]
|deadurl=
ignored (help)