Azorín | |
---|---|
Ffugenw | Azorín, Cándido |
Ganwyd | 8 Mehefin 1873, 11 Mehefin 1874 Monòver |
Bu farw | 3 Mawrth 1967, 4 Mawrth 1967 Madrid |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofelydd, llenor, newyddiadurwr, beirniad llenyddol, awdur ffeithiol, dramodydd, gwleidydd |
Swydd | member of the Congress of Deputies, member of the Congress of Deputies, member of the Congress of Deputies, member of the Congress of Deputies, member of the Congress of Deputies |
Arddull | traethawd, drama |
Prif ddylanwad | Miguel de Unamuno, Ángel Ganivet |
Mudiad | Cenhedlaeth 98 |
Priod | Julia Guinda de Urzanqui |
Gwobr/au | Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Uwch Croes Urdd Siarl III, Q77595621, Uwch-Groes Urdd Sifil Alfonso X |
Nofelydd, ysgrifwr, a beirniad llenyddol Sbaenaidd oedd José Martínez Ruiz (8 Mehefin 1873 – 2 Mawrth 1967) a adwaenir gan y ffugenw Azorín. Efe oedd un o aelodau blaenllaw y mudiad llenyddol La Generación del 98.
Ganed ym Monóvar, Valencia, yng Ngweriniaeth Gyntaf Sbaen. Astudiodd y gyfraith yn Valencia, Granada, a Salamanca. Symudodd i Fadrid i fod yn newyddiadurwr, ond roedd yn anodd iddo gael gwaith oherwydd ei agwedd ddi-flewyn-ar-dafod.[1]
Ysgrifennodd driawd o nofelau traethodol – La voluntad (1902), Antonio Azorín (1903), Las confesiones de un pequeño filósofo (1904) – a oedd yn hwb i La Generación del 98. Mynegir gwladgarwch diwylliannol Azorín yn ei gyfrol El alma castellana (1900) a'i gasgliadau o ysgrifau La ruta de Don Quijote (1905) ac Una hora de España 1560–1590 (1924). Ystyrir Azorín yn feirniad gwychaf Sbaen yn nechrau'r 20g, a dethlir clasuron llenyddiaeth Sbaeneg yn ogystal â mudiadau newydd yn ei weithiau megis Al margen de los clásicos (1915). Azorín oedd golygydd y cylchgrawn Revista de Occidente o 1923 i 1936.
Treuliodd Azorín gyfnod Rhyfel Cartref Sbaen ym Mharis yn ysgrifennu i'r papur newydd Archentaidd La Nación. Dychwelodd i Fadrid ym 1949, a bu farw yno yn 93 oed.[1]