Baner Hawai'i

Baner Hawai'i
Enghraifft o'r canlynolbaner endid gweinyddol o fewn un wlad Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyn, coch, glas Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu29 Rhagfyr 1845, 6 Mehefin 2005 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Baner Hawai'i yn faner genedlaethol teyrnas bu'n annibynnol hyd yr 1890au a sydd nawr yn un o daleithiau Unol Daleithiau America. Yr enw ar y faner yn Hawaieg yw Ka Hae Hawai'i.[1] Fe'i mabwysiadwyd yn 1816 ac mae'n un o'r baneri hynaf yn y byd sydd heb ei newid[angen ffynhonnell], gan ei bod hefyd yn symbol swyddogol o'r ynysoedd yng nghyfnod Teyrnas Hawai'i (tan 1893), yn ystod y llywodraeth anghyfreithiol dros dro (1893-1894), yn ogystal â'r gweriniaeth a ffurfiwyd wedi coup d'état (1894–1898) ac fel tiriogaeth yr Unol Daleithiau (1898–1959). Hi hefyd yw'r unig un o faneri'r Unol Daleithiau sy'n cynnwys Jac yr Undeb fel rhan ohoni.

Ers 1990, mae 31 Gorffennaf wedi cael ei ddathlu fel Diwrnod y Faner (Ka Hae Hawaii) yn Hawai'i.

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]
Baner Hawaii ym Mharc Cenedlaethol Haleakalā

Mae'r faner yn cynnwys wyth streipen lorweddol bob yn ail o'r brig yn y lliwiau gwyn, coch a glas. Maent yn symbol o wyth prif ynys yr archipelago: Hawaii, Oahu, Kaua'i, Kahoolawe, Lana'i, Maui, Moloka'i a Niʻihau. Jac yr Undeb sydd yn y canton.

Mae yna sawl damcaniaeth am darddiad y faner. Mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn priodoli'r cynllun i un o swyddogion y llynges Brydeinig a'i modelodd ar ôl baner y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, yn ôl hanesyn poblogaidd, mae'n hybrid o faneri'r Unol Daleithiau a Phrydain Fawr, a ddefnyddiwyd gan y Brenin Kamehameha I i ennill ffafr yr archbwerau imperialaidd (Prydain, Ffrainc, Rwsia a'r UDA) oedd yn cystadlu â'i gilydd ar y pryd,[2] er dywedir hefyd fod y faner yn coffáu perthynas hanesyddol y Llynges Frenhinol Brydeinig â Theyrnas Hawaii, ac yn arbennig agwedd gadarnhaol ei rheolwr cyntaf, y Brenin Kamehameha I, tuag at Prydain.[3][4]

Dyddiad Baner Delwedd
1793–1794 Red Ensign
1794–1816 Jac yr Undeb (tybiedig hyd 1801)
1816–1843 Fersiwn cynnar o'r faner gyfredol
Juli 1843–Februar 1893 Baner gyfredol wedi i'r Deyrnas Unedig ymadael
Februar 1893–April 1893 Baner Unol Daleithiau America
1894–1898 'Gweriniaeth' Hawai'i
1898–1959 Tiriogaeth UDA Hawai'i
1959–heddiw Baner swyddogol y Dalaith a'r Genedl

Baneri hanesyddol

[golygu | golygu cod]

Baneri cenedlaetholgar

[golygu | golygu cod]
Baner Maoli Kānaka
A flag with nine stripes alternating black, yellow, and red, with a yellow field in the canton defaced with a kahili crossed by two paddles.
Baner Louis Agard

Baner Maoli Kānaka

[golygu | golygu cod]

Mae rhai yn honni mai'r cynllun Kānaka Maoli ('gwir bobl' yn yr iaith Hawaieg) yw baner wreiddiol Teyrnas Hawai'i, er nad yw'r honiad hwn wedi'i wirio a'i ddadlau'n eang.[5][6] Fe'i cyflwynwyd i'r cyhoedd gan Gene Simeona yn 2001.[7] Mae ganddo naw streipen bob yn ail o wyrdd, coch, a melyn wedi'u difwyno â tharian werdd gyda puela (hwyl o rhisgl kapa fyddai'n hedfan ar ben canŵ dwbl y pennaeth) wedi'i groesi gan ddau rwyf.

Mae Gene Simeona yn honni iddo ddatguddio baner Kānaka Maoli ym 1999. Dywedodd Simeona iddo ddod ar draws disgynnydd i'r Arglwydd George Paulet a ddywedodd wrtho am faner gynharach. Honnodd Simeona iddo ddod o hyd i dystiolaeth o faner Kanaka Maoli yn archifau'r wladwriaeth, er nad yw unrhyw ffynonellau y gallai fod wedi'u defnyddio wedi'u nodi.[8] Mae ymdrechion dilynol i ddilysu honiad Simeona wedi bod yn aflwyddiannus.[8] Mae beirniaid yr honiad wedi tynnu sylw at dystiolaeth bod y faner Hawäi a dderbynnir yn eang yn bodoli cyn baner Kanaka Maoli.[9]

Baner Louis Agard

[golygu | golygu cod]

Baner gyda naw streipen bob yn ail yn ddu, melyn, a choch, gyda maes melyn yn y canton wedi'i ddifwyno gyda kahili wedi'i groesi gan ddau rwyf. Cynlluniwyd y faner gan Louis Agard ym 1993, wyth mlynedd cyn i faner Kanaka Maoli ymddangos ar gofnod cyhoeddus.

Cynigiodd Louis "Buzzy" Agard gynllun baner Hawäi ym 1993 a oedd yn cynnwys naw streipen bob yn ail a'r un tâl ag ar faner Kanaka Maoli,[10] gan arwain llawer i gredu mai dyma lle y tynnodd Simeona ei ysbrydoliaeth.[9]

Er gwaethaf y diffyg gwirio am ei ddefnydd hanesyddol, mae'r dyluniad yn boblogaidd ymhlith y rhai y mae'n well ganddynt symbol sydd ddim yn cynnwys baner Prydain.[5]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "flag". Hawaiian Dictionaries. D2206.
  2. "Flag of Hawaii | United States state flag". Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-05-26.
  3. Marshall, Tim (2017). A Flag Worth Dying For: The Power and Politics of National Symbols. Simon and Schuster. tt. 52–53. ISBN 9781501168338.
  4. Bloss, Janet Adele (1983). State Flags. Willowisp Press. t. 66. ISBN 9780874061833.
  5. 5.0 5.1 "What's the Story Behind Hawaii's Flag?". Hawaii Magazine (yn Saesneg). 2008-10-21. Cyrchwyd 2022-09-21.
  6. Pulse, Big Island (2019-08-20). "Kanaka Maoli Flag – Hawaii's Original Flag or Clever Marketing?". Big Island Pulse (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-21.
  7. "What's the Story Behind Hawaii's Flag?". Hawaii Magazine (yn Saesneg). 2008-10-21. Cyrchwyd 2023-06-15.
  8. 8.0 8.1 Anwar, Yasmin (2001-02-12). "'Original' flag raises debate". Honolulu Advertiser. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-04. Cyrchwyd 2022-09-22.
  9. 9.0 9.1 Kingdom, Hawaiian (2014-12-13). "Origin of the Hawaiian Kingdom Flag". Hawaiian Kingdom Blog (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-22.
  10. Agard, Louis "Buzz" (1993). He Alo a He Alo – Hawaiian Voices on Sovereignty. Honolulu: American Friends Service Committee. tt. 108–110. ISBN 9780910082259.
Eginyn erthygl sydd uchod am Hawaii. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.