Pont Bangor-is-y-coed dros y Ddyfrdwy a'r eglwys leol | |
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,110, 1,100 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 851.81 ha |
Cyfesurynnau | 53.0035°N 2.9112°W |
Cod SYG | W04000215 |
Cod OS | SJ388454 |
Cod post | LL11 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Ken Skates (Llafur) |
AS/au y DU | Andrew Ranger (Llafur) |
Pentref hanesyddol a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Bangor-is-y-coed( ynganiad ), hefyd Bangor Is-coed[1] (Saesneg: Bangor-on-Dee).[2] Saif ar Afon Dyfrdwy. Mae cae rasio ceffylau i'r de-orllewin o'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Andrew Ranger (Llafur).[3][4]
Roedd clas (mynachlog) Bangor is y Coed yn ganolfan crefydd a dysg pwysig iawn yn hanes cynnar Cymru a'r Brydain Geltaidd. Yn ôl traddodiad sefydlwyd y fynachlog enwog gan y sant Dunawd yn y 6g, gyda'i feibion Deiniol Wyn (nawddsant Bangor yng Ngwynedd), Cynwyl a Gwarthan. Roedd y sant wedi ffoi o'r Hen Ogledd a chafodd heddwch a lloches ar lannau Afon Dyfrdwy ac felly penderfynodd sefydlu mynachlog yno. Daeth yn ganolfan bwysicaf cantref Maelor (a chwmwd Maelor Gymraeg yn ddiweddarach).
Yn ôl yr hanesydd o Sais Beda, cafodd Bangor is y Coed ei dinistrio gan y Saeson yn sgîl Brwydr Caer (tua 615 neu 616). Roedd carfan gref o'r mynachod wedi cymryd rhan yn y frwydr ei hun ond collwyd y dydd i luoedd y brenin Aethelfrith o Ddeira (Northumbria heddiw) a chollodd 1200 o'r mynachod eu bywydau.
Does dim olion o'r fynachlog i'w gweld yno heddiw.
Mae pont pump bwa, Pont Bangor-is-y-coed sy'n dyddio o tua 1660 yn rhychwantu Afon Dyfrdwy yn y pentref; credir iddo gael ei chodi gan y pensaer enwog Inigo Jones.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Trefi
Y Waun · Wrecsam
Pentrefi
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Llys Bedydd · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Pen-y-cae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhos-ddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Tre Ioan · Wrddymbre