Benjamin Hoadly | |
---|---|
Ganwyd | 14 Tachwedd 1676 (yn y Calendr Iwliaidd) Westerham |
Bu farw | 17 Ebrill 1761 Chelsea |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad, diwinydd, ysgrifennwr gwleidyddol, pamffledwr |
Swydd | Esgob Caerwynt, Esgob Henffordd, Esgob Caersallog |
Adnabyddus am | The Nature of the Kingdom, or Church, of Christ |
Priod | Sarah Hoadly |
Clerigwr Anglicanaidd o Loegr a fu'n Esgob Bangor ac yn ddiweddarach yn esgob mewn nifer o esgobaethau yn Lloegr oedd Benjamin Hoadly, weithiau Benjamin Hoadley (14 Tachwedd 1676 – 17 Ebrill 1761).
Addysgwyd ef yng Ngoleg y Santes Catrin, Caergrawnt. Ordeiniwyd ef yn 1701 a bu'n rheithor St. Peter-le-Poor, Llundain, o 1704 hyd 1724. Daeth yn gaplan i Sior I.
Apwyntiwyd ef yn Esgob Bangor yn 1716. Ef oedd y cyntaf mewn olyniaeth o esgobion Seisnig a barhaodd hyd 1890.
Bu cryn anghydfod a dicter ymhlith y Cymry pan glywyd fod Sais wedi cael ei apwyntio yn Esgob Bangor. Teithiodd Hoadly ar hyd yr A5 hyd at Amwythig gyda'r bwriad o gymryd meddiant o'i esgobaeth newydd. Pan sylweddolodd Cymry'r dref honno ei fod yno, daeth torf ohonynt at ei gilydd a rhwystrwyd cerbyd Hoadly ar y bont sy'n croesi Afon Hafren. Bu'n rhaid iddo droi yn ei ôl a dywedir er iddo ddal y swydd am gyfnod o chwe blynedd ni osododd ei droed i lawr gymaint ag unwaith yn ei esgobaeth. Cymaint oedd y casineb tuag ato fel y bu bron iawn i brelad Gwyddelig gael ei gamdrin yn gorfforol gan dorf ym Mangor pan ddigwyddai fynd trwy'r ddinas ar ei ffordd i Gaergybi ar ôl i rywun feddwl mai Broadly oedd ef.[1]
Yn 1717, dechreuodd ei bregeth ar "Natur Teyrnas Crist" yr hyn a elwir Y Ddadl Fangoraidd yn Eglwys Loegr. Yn ddiweddarach, symudwyd ef i dair esgobaeth yn Lloegr. Darluniwyd ef gan William Hogarth (1697-1764) pan oedd yn Esgob Caerwynt tua 1743.