Benjamin Zephaniah | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 15 Ebrill 1958 ![]() Handsworth ![]() |
Bu farw | 7 Rhagfyr 2023 ![]() o tiwmor yr ymennydd ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | actor, bardd, ysgrifennwr, canwr, dub poet, hunangofiannydd, cerddor ![]() |
Mudiad | Ôl-foderniaeth ![]() |
Perthnasau | Mikey Powell ![]() |
Gwobr/au | honorary doctor of the University of Birmingham, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Exeter, Honorary Fellow of the British Academy ![]() |
Gwefan | http://benjaminzephaniah.com/ ![]() |
Bardd Seisnig oedd Benjamin Obadiah Iqbal Zephaniah (15 Ebrill 1958 – 6 Rhagfyr 2023)[1][2]. Roedd yn lenor Rastafarian a bardd dub.
Bu farw yn Rhagfyr 2023 wedi derbyn diagnosis o diwmor ar yr ymennydd wyth wythnos ynghynt.
Ganed a magwyd Zephaniah yn Handsworth ardal o fewn dinas Birmingham,[3] man y cyfeiriodd ato fel "Jamaican capital of Europe", yn fab i bostmon o Barbados a nyrs.[4][5] Fel person â dyslecsia, fe fynychodd ysgol arbennig, ond gadawodd yr ysgol yn 13 oed heb fod yn gallu darllen nac ysgrifennu.
Yn Nhachwedd 2003, fe esboniodd Zephaniah yn The Guardian ei fod wedi gwrthod OBE gan y Frenhines gan ei fod yn ei atgoffa o "how my foremothers were raped and my forefathers brutalised".[6]
Yn sgil ei ymweliad i Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015 pan gyflwynodd rhaglen am yr ŵyl i BBC Four[7], cyhoeddwyd erthygl gan Zephaniah ar wefan BBC am y syniad o ddysgu Cymraeg i blant mewn ysgolion yn Lloegr[8] yn ogystal ag erthyglau am ei sylwadau.[9][10]
Cyhoeddodd Zephaniah ei lyfr cyntaf o gerddi, Pen Rhythm, yn 1980. Cafodd cystal dderbyniad fel yr argraffwyd tair cyfrol. Fe dderbyniodd ei albwm Rasta, a oedd yn cynnwys recordiad cyntaf band The Wailers ers marwolaeth Bob Marley yn ogystal â bod yn deyrnged i Nelson Mandela, sylw ar draws y byd a bu ar frig siartiau albymau Iwgoslafia.[11]
Roedd Zephaniah yn poet in residence yn siambrau Michael Mansfield QC, ac eisteddodd i mewn ar gyfer yr ymchwiliad i Sul y Gwaed ac achosion eraill, ac fe arweiniodd y profiadau hyn at ei gasgliad o gerddi Too Black, Too Strong.