Bernard Cribbins | |
---|---|
Ganwyd | Bernard Joseph Cribbins 29 Rhagfyr 1928 Oldham, Glodwick |
Bu farw | 27 Gorffennaf 2022 |
Man preswyl | Weybridge |
Label recordio | Parlophone Records |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | actor llais, actor llwyfan, actor ffilm, canwr, digrifwr, actor teledu, hunangofiannydd, actor |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | OBE |
Gwefan | http://www.bernardcribbins.com/ |
Actor, comediwr a chanwr Seisnig oedd Bernard Cribbins (29 Rhagfyr 1928 – 28 Gorffennaf 2022).[1]
Cafodd ei eni yn Oldham, yn fab i Ethel (ganwyd Clarkson; 1898–1989) a John Edward Cribbins (1896–1964).[2] Gadawodd yr ysgol yn 13 oed.[3]
Ef oedd llais yr adroddwr a'r holl gymeriadau yn y rhaglen deledu animeiddio i blant The Wombles (1973-1975) a Perks yn y ffilm The Railway Children (1970).[3]
Chwaraeodd Tom Campbell, cydymaith Doctor Who yn y ffilm Daleks' Invasion Earth 2150 (1966). Dychwelodd i'r gyfres gan chwarae Wilfred Mott yn y gyfres deledu rhwng 2007 a 2010.[3]
Wedi ymuno a'r Oldham Rep, cyfarfu ei ddarpar wraig Gillian McBarnet (m. 2021). Roeddent yn briod rhwng 1955 a'i marwolaeth ar 11 Hydref 2021. Bu farw Cribbins yn 93 mlwydd oed yng Ngorffennaf 2022.