Bill Tarmey | |
---|---|
Ganwyd | 4 Ebrill 1941 ![]() Ardwick ![]() |
Bu farw | 9 Tachwedd 2012 ![]() Tenerife ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | actor, llenor, actor teledu ![]() |
Actiwr, canwr ac awdur o Sais oedd Bill Tarmey (ganwyd William Piddington 4 Ebrill 1941 – 9 Tachwedd 2012)[1]. Roedd yn enwog am chwarare rhan Jack Duckworth yn yr opera sebon Coronation Street am gyfnod yn 1979 ac yna'n ddi-dor rhwng 1983 a 2010.
Ganwyd Tarmey yn Ardwick, Manceinion. Ychydig wedyn symudodd ei deulu i Bradford, Manceinion ble gafodd ei addysg. Yn dilyn marwolaeth ei dad yn ystod yr Ail Ryfel Byd,[2] ailbriododd ei fam Lilian remarried, i Robert Cleworth. Treuliodd Bill gyfnod yn Ysgol Bradford Memorial School ac yna Queens Street School a newidiodd ei enw'n diweddarach i Philips Park Secondary Modern School.[3] Yna, gweithiodd fel prentis i'w lysdad ar y ffyrdd a threuliodd rai blynyddoedd yn y diwydiant adeiladu.