Seiclwr proffesiynol Seisnig ydy Syr Bradley Marc Wiggins , CBE (ganwyd 28 Ebrill 1980 , Ghent , Gwlad Belg ). Mae'n arbenigo mewn seiclo trac a ffordd. Enillodd dair medal ar y trac yn Gemau Olympaidd yr Haf Athen 2004 . Yn Gorffennaf 2012 enillodd Wiggins y Tour de France, y seiclwr cyntaf Seisnig i ennill y Tour.
Ganed Bradley yn fab i seiclwr proffesiynol Awstralaidd , Gary Wiggins , ond gwahanodd ei rieni ac aeth i fyw efo'i fam i Maida Vale , Llundain . Yn dilyn gyrfa ei dad, dechreuodd seiclo yn ifanc, gan rasio yn Velodrome Herne Hill , de Llundain yn 12 oed.[ 1]
Yng Ngemau Olympaidd Sydney yn 2000 , enillodd Wiggins y fedal efydd yn y pursuit tîm . Yng Ngemau Olympaidd Athen 2004, enillodd y fedal aur yn y pursuit unigol, 4 km, arian yn y pursuit tîm ac efydd yn y Madison gyda Rob Hayles .
Yn 2001 arwyddodd Wiggins gytundeb gyda thîm proffesiynol ffordd Linda McCartney Racing Team cyn iddo ddod i ben yn gynnar yn 2001.[ 2]
Yn 2002 a 2003, reidiodd dros dîm proffesiynol Ffrengig La Francaise des Jeux ; yn 2004 a 2005, dros dîm proffesiynol Ffrengig Crédit Agricole , a reidiodd yn Giro d'Italia 2005 . Symudodd i dîm Ffrengig Cofidis yn 2006, a chystadleuodd yn Tour de France 2006 a 2007 .
Yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd a argraffwyd 31 Rhagfyr 2004 , gwnaethwyd ef yn OBE i gydnabod ei wasanaeth i chwaraeon .
Dychwelodd Wiggins i reidio trac yng nghymal Manceinion Cwpan y Byd Trac, UCI a Phencampwriaethau'r Byd yn 2007 , gan ennill y pursuit tîm a'r pursuit unigol. Dilynodd y buddugoliaethau yma gan ennill stage prologue y Critérium du Dauphiné Libéré .
Reidiodd Tour de France 2007 dros dîm Cofidis; ond tynnwyd hwy allan o'r gystadleuaeth wedi i aelod arall o'r tîm, Cristian Moreni , brofi'n bositif mewn prawf cyffuriau.[ 3]
Yn 2008, ail-adroddodd Wiggins ei gampau o Bencampwriaethau'r Byd 2007 gan gipio'r aur yn y Pursuit unigol, gan greu Record y Byd newydd yn y broses. Cipiodd yr aur yn y Madison yn ogystal.
Priododd Bradley, Catherine Cathy Cockram, ym Manceinion yn Nhachwedd 2004, ac mae ganddynt ddau o blant, Ben ac Isabelle.
Yn Rhagfyr 2012, enillodd Wiggins y Wobr "Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC ".
1998
1af Pursuit 2 km, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI Iau
1999
1af Madison (gyda Rob Hayles ), Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
3ydd Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2000
2il Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI (gyda Chris Newton , Paul Manning a Bryan Steel )
3ydd Pursuit Tîm, Gemau Olympaidd (gyda Jon Clay , Rob Hayles , Paul Manning , Bryan Steel & Chris Newton )
3ydd Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2001
2il Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
2002
2il Pursuit 4 km, Gemau'r Gymanwlad
2il Pursuit Tîm, Gemau'r Gymanwlad
3ydd Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
2003
1af Pursuit 4 km, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
2il Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Cymal 1 ITT, Tour de l'Avenir
Chwe Diwrnod Ghent
2004
1af Pursuit 4 km, Gemau Olympaidd
2il Pursuit Tîm, Gemau Olympaidd (gyda Steve Cummings , Paul Manning & Rob Hayles )
3ydd Madison, Gemau Olympaidd (gyda Rob Hayles )
2005
1af Cymal 2 ITT, Circuit de Lorraine
1af Cymal 8, Tour de l'Avenir
2007
1af Pursuit 4 km, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI (gyda Ed Clancy , Geraint Thomas & Paul Manning )
1af Pursuit Tîm, Cymal Manceinion , Cwpan y Byd Trac, UCI 2006/2007, (gyda Ed Clancy , Rob Hayles & Paul Manning )
1af Prologue, Critérium du Dauphiné Libéré
1af Cymal 1 ITT, Pedward Diwrnod Dunkirk
1af Cymal 4 ITT, Tour du Poitou-Charentes et de la Vienne
Gwobr Combativity , Cymal 6, Tour de France
2008
1af Madison, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Pursuit 4 km, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
1af Pursuit Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI (gyda Ed Clancy , Geraint Thomas & Paul Manning )
2009
4ydd Tour de France
"Most people were too drunk to notice me" Sylwad ar ei brofiad o ymarfer ar gyfer cymal Llundain o'r Tour de France yn hwyr yn y nos.
"It is nice to be recognised for actually achieving something in life as opposed to spending seven weeks in a house on TV with a load of other muppets." Wrth gyfeirio at Big Brother, ar ôl gorffen yn bedwerydd yn Prologue Tour de France .[ 4]
Comin Wikimedia
1903 Maurice Garin ·
1904 Henri Cornet ·
1905 Louis Trousselier ·
1906 René Pottier ·
1907 · -
1908 Lucien Petit-Breton ·
1909 François Faber ·
1910 Octave Lapize ·
1911 Gustave Garrigou ·
1912 Odile Defraye ·
1913 & 1914 Philippe Thys ·
1915-1918 Rhyfel Byd Cyntaf ·
1919 Firmin Lambot ·
1920 Philippe Thys ·
1921 Léon Scieur ·
1922 Firmin Lambot ·
1923 Henri Pélissier ·
1924 & 1925 Ottavio Bottecchia ·
1926 Lucien Buysse ·
1927 & 1928 Nicolas Frantz ·
1929 Maurice De Waele ·
1930 André Leducq ·
1931 Antonin Magne ·
1932 André Leducq ·
1933 Georges Speicher ·
1934 Antonin Magne ·
1935 Romain Maes ·
1936 Sylvère Maes ·
1937 Roger Lapébie ·
1938 Gino Bartali ·
1939 Sylvère Maes ·
1940-1946 Ail Ryfel Byd ·
1947 Jean Robic ·
1948 Gino Bartali ·
1949 Fausto Coppi ·
1950 Ferdinand Kübler ·
1951 Hugo Koblet ·
1952 Fausto Coppi ·
1953 , 1954 & 1955 Louison Bobet ·
1956 Roger Walkowiak ·
1957 Jacques Anquetil ·
1958 Charly Gaul ·
1959 Federico Bahamontes ·
1960 Gastone Nencini ·
1961 , 1962 , 1963 & 1964 Jacques Anquetil ·
1965 Felice Gimondi ·
1966 Lucien Aimar ·
1967 Roger Pingeon ·
1968 Jan Janssen ·
1969 , 1970 , 1971 & 1972 Eddy Merckx ·
1973 Luis Ocaña ·
1974 Eddy Merckx ·
1975 Bernard Thévenet ·
1976 Lucien Van Impe ·
1977 Bernard Thévenet ·
1978 & 1979 Bernard Hinault ·
1980 Joop Zoetemelk ·
1981 & 1982 Bernard Hinault ·
1983 & 1984 Laurent Fignon ·
1985 Bernard Hinault ·
1986 Greg LeMond ·
1987 Stephen Roche ·
1988 Pedro Delgado ·
1989 & 1990 Greg LeMond ·
1991 , 1992 , 1993 , 1994 & 1995 Miguel Indurain ·
1996 Bjarne Riis ·
1997 Jan Ullrich ·
1998 Marco Pantani ·
1999 , 2000 , 2001 , 2002 , 2003 , 2004 & 2005 Lance Armstrong ·
2006 Óscar Pereiro ·
2007 Alberto Contador ·
2008 Carlos Sastre ·
2009 Alberto Contador ·
2010 Andy Schleck ·
2011 Cadel Evans ·
2012 Bradley Wiggins ·
2013 Christopher Froome ·
2014 Vincenzo Nibali ·
2015 & 2016 & 2017 Christopher Froome ·
2018 Geraint Thomas ·
2019 Egan Bernal ·
2020 & 2021 Tadej Pogačar ·