Math | busnes |
---|---|
Sefydlwyd | 1882 |
Pencadlys | Caerdydd |
Cynnyrch | cwrw |
Gwefan | http://www.sabrain.com/, https://www.sabrain.com/ ![]() |
Cwmni bragu yng Nghaerdydd yw Brains. Sefydlwyd S. A. Brain yn 1882 gan Samuel Arthur Brain.
Roedd yr bragdy'n berchen ar dros 200 o dafarndai cyn 2022 yn Ne Cymru a gorllewin Lloegr. Yn ddiweddar mae'r cwmni wedi noddi tîm rygbi undeb Cymru.
Ar ôl effeithiau heriol y pandemig coronafirws, yn Rhagfyr 2020 rhoddwyd cyfrifoldeb am redeg 156 o'i dafarndai i Marstons.[1] Yn 2021 cyhoeddodd Brains gynlluniau i gau ei fragdy newydd yn East Moors, Caerdydd a symud cynhyrchu ei gwrw i Loegr.[1]