![]() | |||
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Caersŵs | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | Yr Adar Gleision | ||
Sefydlwyd | 1879 (fel Amaturiaid Caersŵs) | ||
Maes | Y Cae Chwarae | ||
Rheolwr |
![]() | ||
Cynghrair | Cynghrair Undebol | ||
2023/24 | 9. | ||
|
Clwb pêl-droed yng Nghaersŵs, Powys yw Clwb Pêl-droed Caersŵs (Saesneg: Caersws Football Club) sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru.
Ffurfwyd y clwb yn 1879 fel Amaturiaid Caersŵs cyn gollwng y gair Amatur o'u henw ym 1974[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref ar Y Cae Chwarae.
Er i'r clwb gael eu ffurfio ym 1879, bu rhaid disgwyl tan 1920-21 am eu hymddangosiad cyntaf yng Nghwpan Cymru lle cafwyd crasfa 8-1 gan Y Drenewydd[2]. Ychydig iawn o lwyddiant brofodd y clwb cyn y 1960au, pan lwyddodd y clwb i ennill Cynghrair Canolbarth Cymru yn 1959-60[3], 1960-61[4] a 1962-63[5].
Rhwng 1978 a 1989 llwyddodd Caersŵs i ennill Cynghrair Canolbarth Cymru ar bump achlysur cyn cael gwahoddiad i fod yn rhan o gynghrair newydd y Gynghrair Undebol ar gyfer tymor 1990-91[6][7].
Yn 1992 cafodd y clwb wahoddiad i fod yn un o'r 20 clwb yn nhymor cyntaf Uwch Gynghrair Cymru gan orffen y tymor cyntaf yn yr 11eg safle[8].
Bu i'r clwb gynyrchioli Cymru yn nhlws Intertoto yn 2002, gan golli yn erbyn PFC Marek Dupnitsa o Bwlgaria.
Tymor | Cystadleuaeth | Rownd | Clwb | Cymal 1af | 2il Gymal | Dros Ddau Gymal |
---|---|---|---|---|---|---|
2002 | Tlws Intertoto | Rd 1 | ![]() |
0–2 | 1-1 | 1–3 |
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)
Cynghrair Undebol, 2018-19 | ||
---|---|---|
Airbus UK |
Bangor |
Bwcle |
Cegidfa |
Conwy |
Dinbych |
Gresffordd |
Hotspur Caergybi | |