Cadwallon ap Madog | |
---|---|
Ganwyd | 12 g Maelienydd |
Bu farw | 22 Medi 1179 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Priod | Efa ferch Madog |
Arglwydd Maelienydd oedd Cadwallon ap Madog (bu farw 22 Medi 1179). Bu'n ymladd am feddiant o Faelienydd yn erbyn teulu'r Mortimeriaid. Roedd yn fab i Madog ab Idnerth, a fu farw yn 1140; roedd Idnerth yn or-ŵyr i Elystan Glodrydd, sylfaenydd llinach yn Rhwng Gwy a Hafren.
Ceir y cofnod cyntaf am Gadwallon yn 1160, pan ffraeodd a'i frawd Einion Clud o Elfael. Ymddengys iddo goncro Maelienydd tua diwedd y 1150au neu ynghynt. Tua'r cyfnod yma priododd ag Efa ferch Madog, merch y brenin Madog ap Maredudd o Bowys; cofir Efa am i'r bardd Cynddelw Brydydd Mawr ganu gerdd arbennig iddi.
Yn 1175 dilynodd Cadwallon Rhys ap Gruffudd i Gaerloyw, lle gwnaeth gytundeb a Harri II, brenin Lloegr. Ymddengys iddo adeiladu nifer o gestyll, yn cynnwys Castell Crug Eryr, Llanfihangel Nant Melan ac i Gastell Cymaron fod yn ei feddiant. Pan fu farw Einion Clud yn 1176, Cadwallon a gafodd ei diroedd.
Yn 1179 lladdwyd Cadwallon gan rhai o ddeiliaid Roger Mortimer wrth iddo ddychwelyd i Bowys ar ôl ymweld â llys Harri II, brenin Lloegr. Gan fod Cadwallon yn ddeiliad i'r brenin mewn enw, carcharwyd Roger Mortimer gan y brenin, a geisiai danseilio grym arglwyddi Normanaidd annibynnol y Mers, ac etifeddwyd Maelienydd gan fab Cadwallon, Maelgwn ap Cadwallon. Pan ryddhawyd Roger Mortimer o'r carchar cipiodd ran helaeth yr arglwyddiaeth, ond yn ddiweddarach llwyddodd Maelgwn i adfer ei feddiant gyda chymorth Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth. Ar ôl marwolaeth Rhys cipiwyd y diriogaeth gan y Mortimeriaid eto.