Math | diod coffi |
---|---|
Gwlad | yr Eidal |
Yn cynnwys | espresso, llaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Caffè macchiato (ynganiad Eidaleg: [kafˈfɛ mmakˈkjaːto] orgraff y Gymraeg: caffe maciato), ar lafar arddelir macchiato gan hepgor "caffè" neu "coffi" a weithiau gelwir yn espresso macchiato,[1][2] yn ddiod goffi espresso gydag ychydig bach o laeth, fel arfer yn ewynnog. Yn Eidaleg, mae macchiato yn golygu "lliw" neu "smotiog" felly y cyfieithiad llythrennol o caffè macchiato yn Gymraeg byddai "coffi brith" neu "coffi brech." Mae'n goffi cryf. Caiff ei ddrysu gyda cortado yn aml gan yfwyr a gweinwyr yng Nghymru.
Mae tarddiad yr enw "macchiato" yn deillio o baristas sydd angen dangos i'r gweinyddwyr sy'n gwasanaethu y gwahaniaeth rhwng espresso ac espresso gydag ychydig bach o laeth ynddo; roedd yr olaf wedi'i "farcio". Adlewyrchir y syniad yn yr enw Portiwgaleg am y ddiod: caffi pingado, sy'n golygu coffi gyda diferyn.[3]
Gweler hefyd: caffè latte Mae gan y caffè macchiato y gymhareb uchaf o espresso i laeth o unrhyw ddiod a wneir gyda'r cynhwysion hynny. Y bwriad yw bod y llaeth yn cymedroli, yn hytrach na gorlethu, blas y coffi wrth ychwanegu ychydig o felyster. Yn nodweddiadol, paratoir y ddiod trwy arllwys ychydig bach o laeth wedi'i stemio yn uniongyrchol i un joch o espresso.[4] Mae un rysáit yn galw am 5–10 g (1–2 llwy de) o laeth wedi'i gynhesu i 60-66 ° C (140-150 ° F).[5]
Ceir amrywiaethau o macchiato wrth ei weini ac yn diriogaethol:
Yng Nghymru a gweddill Gwledydd Prydain, gwelir bod y defnydd o goffi macchiato, cortado a coffi piccolo yn gall bod yn enw generig ar unrhyw fath o baned espresso gydag ychydig o laeth. Weithiau, caiff jwg fach o laeth ewynnog twym ei weini gyda'r espresso er mwyn rhoi'r rhyddid i'r yfwr arllwys faint fynno o laeth i'r espresso yn ôl chwaeth ei hun. Gellir dweud bod y ffurfiau yma yn enghreifftiau o macchiato gwlyb (wet macchiato) gyda cymhareb o oddeutu 50% espresso a 50% llaeth ewynnog twym. Mea hyn yn rhan o esbylygiad 'Trydydd Don' gweini diodydd espresso yn fyd-eang.[8]