Cameron Norrie | |
---|---|
Ganwyd | 23 Awst 1995 Johannesburg |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr tenis |
Taldra | 188 centimetr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | TCU Horned Frogs men's tennis |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Chwaraewr tenis o'r Deyrnas Unedig yw Cameron Norrie (/ˈnɒri/ ; ganwyd 23 Awst 1995).[1] Yn ei yrfa mae wedi cyrraedd safleoedd uchaf o Rhif 10 yn y byd mewn senglau (ar 4 Ebrill 2022) a Rhif 123 mewn dyblau (ar 23 Awst 2021). Mae ganddo bedwar teitl sengl ATP Tour (gan gynnwys teitl Masters 1000 yn Indian Wells Masters 2021) ac un teitl dyblau. Mae Norrie wedi bod yn Rhif 1 Prydain mewn senglau dynion ers 18 Hydref 2021.
Ganed Norrie yn 1995 yn Johannesburg, De Affrica, i rieni o wledydd Prydain, ill dau yn ficrobiolegwyr: mae ei dad David yn dod o Glasgow a’i fam Helen yn dod o Gaerdydd.[2][3] Ar ôl lladrad yn 1998, pan oedd Norrie yn dair oed, symudodd ef a'i deulu i Auckland, Seland Newydd, lle mae ei rieni'n dal i fyw.[4] Yn 2011, yn 16 oed, symudodd i'r Deyrnas Unedig, a bu'n byw yn Llundain am dair blynedd cyn mynychu Prifysgol Gristnogol Texas yn Fort Worth o 2014 i 2017. Ym mis Mehefin 2017, daeth ei astudiaethau i ben yn TCU i droi'n broffesiynol yn ystod tymor cwrt glaswellt Taith ATP 2017.[5][6]
Ers troi'n broffesiynol mae wedi ei leoli yn Putney, de-orllewin Llundain (ger Wimbledon). [7] Pan ganslwyd y Indian Wells Masters ym mis Mawrth 2020 ar ddechrau’r pandemig, penderfynodd Norrie hedfan i Seland Newydd i fyw gyda’i rieni am weddill y flwyddyn.[8]
Mae Norrie yn cefnogi South Sydney Rabbitohs (clwb rygbi’r gynghrair Awstralia), tîm rygbi undeb cenedlaethol Crysau Duon Seland Newydd a Chlwb Pêl-droed Newcastle United.[9]
Cynrychiolodd Norrie Seland Newydd fel chwarewr iau, gan ddod yn Rhif 10 yn y byd, ond dim ond ychydig filoedd o ddoleri a gafodd gan Tennis Seland Newydd, felly bu'n rhaid i'w rieni ariannu ei deithiau tramor.[10] Yn bymtheg oed, teithiodd Ewrop am bum mis.
Ym mis Ebrill 2013, newidiodd Norrie ei deyrngarwch yn 17 i Brydain Fawr, cenedligrwydd ei ddau riant,[11] yn rhannol oherwydd y cyllid oedd ar gael,[12] gan dreulio tair blynedd yn Llundain ar ei ben ei hun. Bu'n byw a hyfforddi yn y Ganolfan Tenis Genedlaethol,[13] yn ddiweddarach yn byw gyda theulu lletyol am ddwy flynedd tra parhaodd â'i hyfforddiant. Yn 2013, cystadlodd ym mhob un o'r Gamp Lawn Iau; Pencampwriaeth Agored Awstralia i Seland Newydd, yna i Brydain Fawr ym Mhencampwriaeth Agored Ffrainc, Wimbledon ac US Open, ond dim ond un gêm enillodd, yn Awstralia.
Cafodd Norrie anhawster ar gylched tenis Ewrop, felly ystyriodd hyfforddi mewn prifysgol yn America (Intercollegiate Tennis Association).[14]
Yn 2022, cyrhaeddodd rownd gynderfynol Wimbledon gan chwarae yn erbyn Novak Djokovic.[15] Dechreuodd yn dda ac enillodd y set gyntaf, ond daeth Djokovic yn gryfach gan ennill y tri set nesaf. Y sgôr oedd 2-6 6-3 6-2 6-4.[16]
|date=
(help)