Captain Beefheart | |
---|---|
Ffugenw | Captain Beefheart |
Ganwyd | Don Glen Vliet 15 Ionawr 1941 Glendale |
Bu farw | 17 Rhagfyr 2010 Arcata |
Label recordio | A&M Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, bardd, cyfansoddwr, cerflunydd, arlunydd, chwaraewr sacsoffon, cyfansoddwr caneuon, cynhyrchydd ffilm, gitarydd, amgylcheddwr, cerddor, artist |
Adnabyddus am | Trout Mask Replica |
Arddull | roc celf, roc arbrofol, roc blaengar, roc seicedelig, roc y felan, free jazz, proto-punk, outsider music, spoken word, roc amgen |
Mudiad | Mynegiadaeth Haniaethol |
Priod | Jan Jenkins |
Gwefan | http://www.beefheart.com/ |
Cerddor roc, blues ac avant-garde arloesol Americanaidd oedd Don Van Vliet a adwaenid fel Captain Beefheart (15 Ionawr 1941 – 17 Rhagfyr 2010).
Perfformiodd gyda'i grŵp y Magic Band a rhyddhawyd nifer o recordiau hir rhwng y 1960au a'r 1980au. Roedd gan ei recordiau ond yn apêl fasnachol gyfyngedig iawn ond yn ddylanwad enfawr ar nifer mawr o gerddorion a 'genres'.
Yn nes ymlaen yn ei fywyd enillodd enw fel peintiwr o fri gan arddangos ei waith ar draws y byd.[1]
Yn blentyn galluog iawn, fe'i magwyd yn ardal Anialwch Mojave, Califfornia. Dangosodd gryn dalent fel cerflunydd a ddaeth yn ffrindiau gyda Frank Zappa. Dysgodd chwarae harmonica a sacsoffon a ffurfiodd ei Magic Band cyntaf yn 1964.
Cafodd y grŵp (oedd yn cynnwys Ry Cooder am gyfnod) beth llwyddiant gyda'r recordiau hir Safe as Milk (1967) and Strictly Personal (1968).
Yn 1969 rhyddhawyd ei record enwocaf Trout Mask Replica, a gynhyrchwyd gan Zappa. Mae'r record yn ymadawiad syfrdanol o gonfensiynau roc confensiynol, gan gyfuno gitâr sleid, rhythmau anghyfarwydd a geiriau swrreal. Roedd ei ganeuon yn cyfleu anfodlonrwydd dwfn o fywyd modern, awydd am gydbwysedd ecolegol, a'r gred fod anifeiliaid gwyllt yn fwy gwareiddiedig na phobl.
Er iddo ennill clod am ei recordiau canlynol fel Clear Spot (1972), Shiny Beast (Bat Chain Puller) (1978), Ice Cream for Crow (1982), roedd eu poblogrwydd yn gyfyngedig i ddilyniant 'cult' brwd.
Yn adnabyddus am ei bersonoliaeth a pherthynas enigmatig â'r cyhoedd, ychydig iawn o ymddangosiadau cyhoeddus wnaeth Van Vliet ar ôl iddo ymddeol o gerddoriaeth yn 1982.
Yn y 1980au dilynodd yrfa mewn celf, diddordeb a ddechreuodd yn ifanc gyda cherflunio. Mae ei baentiadau a lluniau mynegol wedi'u gwerthu am brisiau uchel, ac maent wedi'u harddangos mewn orielau celf ac amgueddfeydd ar draws y byd.
Bu farw Van Vliet yn 2010, ar ôl dioddef o sglerosis ymledol ers sawl blwyddyn.[1]