Carla Lane | |
---|---|
Ganwyd | 5 Awst 1928 Lerpwl |
Bu farw | 31 Mai 2016 Mossley Hill |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | sgriptiwr |
Gwobr/au | OBE |
Awdures Seisnig oedd Carla Lane OBE (ganwyd Roma Barrack; 5 Awst 1928 – 31 Mai 2016)[1] a oedd yn gyfrifol am ysgrifennu sawl comedi sefyllfa ar deledu yn cynnwys The Liver Birds (1969-78), Butterflies (1978-82), a Bread (1986-91).[2]
Ganwyd Roma Barrack yn West Derby, Lerpwl.[3][4] Gwasanaethodd ei thad Gordon De Vince Barrack, a anwyd yng Nghaerdydd,[5][6] yn y llynges fasnach. Aeth i ysgol gwfaint, ac yn 7 oed, enillodd wobr ysgol am farddoni.[7] Fe'i magwyd yn West Derby ac yna Heswall.[8] Gadawodd ysgol yn 14 oed, a gweithiodd yn y byd nyrsio.[1] Yn ôl ei hunangofiant, fe briododd yn 17 oed a chafodd ddau fab erbyn yr oedd yn 19 oed,[7] er bod cofnodion swyddogol yn dangos ei bod yn 19 pan briododd.[4]
Yn y 1960au roedd hi'n ysgrifennu straeon byrion a sgriptiau radio. Daeth ei llwyddiannau cyntaf mewn cydweithrediad â Myra Taylor, a gyfarfu mewn gweithdy awduron yn Lerpwl, cyn iddi gychwyn ar ei gyrfa unigol. Fe fyddai Carla a Myra yn cyfarfod yn aml yng Ngwesty Adelphi yng nghanol dinas Lerpwl i ysgrifennu.[9]
Roedd Lane wedi bod yn lysieuwraig ers 1965 ac yn ymroddedig i ofal a lles anifeilaid,[1] Ffurfiodd ymddiriedolaeth yr "Animal Line" yn 1990 gan Carla gyda'i ffrindiau Rita Tushingham a Linda McCartney.[1] Yn 1991, prynodd Ynys Tudwal Fach ar arfordir Llŷn, i amddiffyn ei fywyd gwyllt.[1]
Yn 1993, fe addasodd dir ei phlasdy, "Broadhurst Manor" yn Horsted Keynes, Sussex, mewn i warchodfa anifeiliad 25 erw.[9] Rhedodd y warchodfa am 15 mlynedd cyn gorfod cau oherwydd cyfyngiadau ariannol.[10] Yn 2002 danfonodd Lane ei OBE yn ôl i'r prif weinidog ar y pryd, Tony Blair mewn protest am greulondeb i anifeiliaid.[11] Yn 2013, agorwyd gwarchodfa anifeiliaid "Carla Lane Animals In Need centre", yn ei henw, yn Melling, Glannau Merswy.[12]
Cyhoeddodd ei hunangofiant, Someday I'll Find Me: Carla Lane's Autobiography, yn 2006. Bu farw Lane yng nghartref nyrsio Stapley yn Lerpwl ar 31 Mai 2016.[11]