Catherine Duleep Singh | |
---|---|
Ganwyd | 1871, 27 Hydref 1871 Elveden |
Bu farw | 1942, 8 Tachwedd 1942 Swydd Buckingham |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, swffragét |
Tad | Duleep Singh I |
Mam | Bamba Müller |
Ffeminist a Thywysoges o Loegr oedd Catherine Hilda Duleep Singh (27 Hydref 1871 - 8 Tachwedd 1942) ac ail ferch i Ei Fawrhydi Maharaja Syr Duleep Singh a Maharani Bamba née Müller. Addysgwyd hi yn Lloegr ac ym 1895 fe'i cyflwynwyd yn Llys Brenin Lloegr. Daeth yn ymgyrchydd dros hawliau merched (ac etholfraint) ond ni chymerodd ran ym mudiad Swffragét Emmeline Pankhurst.[1][2]
Fe'i ganed yn Neuadd Elveden, Elven, Suffolk a bu farw yn Swydd Buckingham. Mynychodd Goleg Somerville, Rhydychen.[3][4]
Ffurfiodd gyfeillgarwch agos a gydol oes gyda’r llywodraethwr Lina Schäfer ac o 1904 bu’n byw gyda hi yn yr Almaen hyd at farwolaeth Lina Schäfer ym 1937.
Roedd ganddi chwaer hyn, sef Bamba Sofia Jindan (1859–1957), chwaer iau Sophia Alexandra (1876–1948), tri brawd - Victor Albert Jay (1866–1918), Frederick Victor (1868–1926), ac Edward Alexander (1879 –1942), a dwy hanner chwaer - Ada Pauline (1887–?) ac Irene (1880–1926) - drwy ail briodas Duleep Singh, ag Ada Douglas. Sophia oedd y mwyaf adnabyddus o'r chwiorydd gan ei bod yn swffragét gweithgar.
Ym 1886 ceisiodd ei thad symud i India gyda'i ferched ond cafodd ei atal a gorfodwyd ef i ddychwelyd. Arhosodd Catherine a'i chwiorydd yn Folkestone, yn 21 Clifton Street. Ar gyngor Swyddfa India yn Llundain ymddiriedwyd eu gofal i Arthur Oliphant a'i wraig; roedd tad Oliphant wedi gweithio fel marchfilwr. Yn ystod y cyfnod hwn y cyflwynwyd y dywysoges i Fräulein Lina Schäfer, athrawes Almaeneg a llywodraethwr o Kassel a oedd yn ddeuddeng mlynedd yn hŷn na hi.[5]
Ym 1903, aeth ar daith o amgylch India, aeth i gartref ei chyndeidiau yn Lahore a lleoedd eraill fel Kashmir, Dalhousie, Simla, ac Amritsar. Ymwelodd hefyd â thaleithiau tywysogaidd Kapurthala, Nabha, Jind a Patiala a rhyngweithio gyda'r uchelwyr a'r werin bobl, lleol. Ar ôl iddi ddychwelyd o India ym Mawrth 1904 bu’n byw yn Ewrop gyda’i chyn-lywodraethwr Lina Schäfer.[5]
Bu Catherine a'i chwiorydd yn debutantes ym Mhalas Buckingham ym 1895, a chofnodir eu bod wedi'u gwisgo'n osgeiddig mewn sidan[6]. Fel ei chwaer Sophia, daeth Catherine Hilda Duleep Singh hefyd yn aelod o Grŵp Etholfraint Merched Fawcett ac Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau y Bleidlais i Fenywod (NUWSS), a elwir hefyd yn "Suffragistiaid" neu "Suffragists.[7]
|dead-url=
ignored (help)