Catherine O'Hara

Catherine O'Hara
GanwydCatherine Anne O'Hara Edit this on Wikidata
4 Mawrth 1954 Edit this on Wikidata
Toronto Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Canada Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Burnhamthorpe Collegiate Institute Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor, sgriptiwr, actor llais, cyfansoddwr caneuon, canwr, cyfarwyddwr ffilm, byrfyfyriwr, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Pwysau50 cilogram Edit this on Wikidata
PriodBo Welch Edit this on Wikidata
PlantMatthew Welch, Luke Welch Edit this on Wikidata
Gwobr/auEarle Grey Award, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Governor General's Performing Arts Award, Gwobr Primetime Emmy i'r Prif Atores mewn Cyfres Gomedi, Swyddog Urdd Canada, Canadian Comedy Award for Best Female Performance in a Feature, Canadian Comedy Award Winners for Comedians, Urdd Canada, Golden Globes, Gwobr Emmy 'Primetime', Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn Edit this on Wikidata

Actores a digrifwraig o Ganada (a dinesydd Americanaidd erbyn hyn) yw Catherine Anne O'Hara (ganwyd 4 Mawrth 1954), sydd wedi ennill Emmy a Gwobr Gemini. Mae'n adnabyddus am ei gwaith digri ar SCTV a'i rôl mewn ffilmiau, gan gynnwys Delia Deetz yn Beetlejuice, Kate McCallister yn Home Alone, Sally yn The Nightmare Before Christmas ac ei hymddangosiad yn ffilmiau mockumentary wedi ei cyfarwyddo gan Christopher Guest.

Dechreuodd ei gyrfa actio yn 1974 fel aelod o gast The Second City yn Toronto. Roedd yn ddirprwy actor ar gyfer Gilda Radner tan iddi adael ar gyfer Saturday Night Live. Dyflwydd yn ddiweddarach fe chwaraeodd y grŵp theatr hwn SCTV, a daeth O'Hara yn berfformiwr rheolaidd.

Yn y 1970au hwyr, fe gyflewodd y lleisiau ar gyfer nifer o gymeriadau cartŵn, a parhaodd i wneud hyn trwy ei gyrfar. Yn ystod cyfnod byr yn yr 80au pan oedd SCTV rhwng cytundebau rhwydwaith, fe gafodd ei chyflogi i gymryd lle Ann Risley ar Saturday Night Live pan oedd yn cael ei ail-weithio yn 1981. Er, bu'n rhaid iddi ymddiswyddo heb ymddangos ar un rhaglen, gan ddewis i ddychwelyd i SCTV pan arwyddwyd cytundeb gyda NBC, a dychwelodd y rhaglen i'r awyr.[1][2][3] Rhoddwyd ei swydd SNL i Robin Duke, a oedd hefyd wedi cymryd lle O'Hara mewn un cyfres o SCTV.

Ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau dros y blynyddoedd, gan gynnwys After Hours gan Martin Scorsese yn 1985, yn ogystal â chwarae rhanau yn ffilmiau Tim Burton, Beetlejuice a The Nightmare Before Christmas. Chwaraeodd Kate McCallister yn y ddau ffilm Home Alone. Serennodd yn ei phedwaredd ffilm Christopher Guest yn 2006, For Your Consideration (yn dilyn Waiting for Guffman, Best in Show, a A Mighty Wind).

Ar 9 Mehefin 2007, cafodd ei sefydlu yn Canada's Walk of Fame. Yn Mai 2008, datganwyd ei bod wedi arwyddo cytundeb i ymddangos yn drama ddigri ABC, Good Behavior.[4]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ganwyd O'Hara yn Toronto, Ontario i deulu Catholig Gwyddelig.[5] Wedi brodori daeth yn ddinesydd yr Unol Daleithiau.[6] Priododd y dylunydd cynhyrchu / cyfarwyddwr ffilm Bo Welch yn 1992, ac mae ganddynt ddau fab, Matthew (ganwyd 1994) a Luke (ganwyd 1997). Mae'n chwaer i'r gantores Mary Margaret O'Hara, er mae hi'n gantores ei hun, fel a welwyd yn y ffilm 2003, A Mighty Wind. Mae ganddi gyflwr meddygol o'r enw Dextrocardia gyda situs inversus.[7]

Ffilmograffi

[golygu | golygu cod]

Enwogion sydd wedi cael eu dynwared gan O'Hara on SCTV

[golygu | golygu cod]

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rôl
1983 Rock & Rule Aunt Edith
1985 After Hours Gail
1988 Beetlejuice Delia Deetz
1990 Home Alone Kate McCallister
1990 Betsy's Wedding Gloria Henner
1990 Dick Tracy Texie Garcia
1990 Little Vegas Lexie
1992 Home Alone 2: Lost in New York Kate McCallister
1992 There Goes the Neighborhood Jessie Lodge
1993 The Nightmare Before Christmas Sally a Shock (llais a chanu)
1994 Little Giants Young Boy's Mother
1994 A Simple Twist of Fate Mrs. Simon
1994 Wyatt Earp Allie Earp
1994 The Paper Susan
1995 Tall Tale Calamity Jane
1996 Waiting for Guffman Sheila Albertson
1997 Hope (Teledu) Muriel Macswain
1997 Pippi Longstocking llais Mrs. Prysselius
1999 Late Last Night (Teledu) y Shrink
1998 Home Fries Mrs. Lever
1999 Bartok the Magnificent llais Ludmilla
1999 The Life Before This Sheena
2000 Edwurd Fudwupper Fibbed Big llais
2000 Best in Show Cookie Guggelman Fleck
2001 Speaking of Sex Connie Barker
2001 Committed (Cyfres deledu)  
2002 Orange County Cindy Beugler
2003 A Mighty Wind Mickey Crabbe
2004 Surviving Christmas Christine Valco
2004 The Wool Cap Gloria
2004 Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events Justice Strauss
2005 Chicken Little Tina
2006 For Your Consideration Marilyn Hack
2006 Monster House DJ's Mother
2006 Brother Bear 2 Kata
2006 Over The Hedge Penny
2008 Penelope Jessica Wilhern
2009 Farlanders I'w gadarnhau
2009 Where the Wild Things Are Judith

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Catherine O'Hara on CBC's 'The Hour'
  2. Catherine The Great
  3. SCTV Shoots For First
  4. "Catherine O'Hara to star in ABC pilot". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-17. Cyrchwyd 2008-05-17.
  5. Alternative Canadian Walk of Fame - Inductee: Mary Margaret O’Hara
  6. Catherine O'Hara Biography (1954-)
  7. The Hour - 2 Minutes: Catherine O'Hara