Enghraifft o'r canlynol | sefydliad elusennol, animal rescue group |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 16 Mai 1927 |
Gweithwyr | 678, 792, 904, 996, 1,037 |
Pencadlys | y Deyrnas Unedig |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.cats.org.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Elusen Prydeinig ydy Cats Protection (Gwarchod Cathod), The Cats Protection League (Cynghrair Gwarchod Cathod) oedd ei henw gynt, sy'n ymroddedig at achub ac ail-gartrefu cathod di-gartref a chathod nad yw eu perchnogion eu eisiau. Sefydlwyd ar 16 Mai 1927 mewn cyfarfod yn Neuadd Caxton yn Llundain. Byrhawyd yr enw yn 1998.
Erbyn 2005, roedd 29 lloches a 260 o ganghenni gwirfoddol wedi eu lleoli ogwmpas Y Deyrnas Unedig. Ar y cyd â ail-gartrefu cathod mae'r elusen yn rhedeg cynllun dirywio ar gyfer perchnogion ar gyllid cyfyng, a llinell ffôn argyfwng cenedlaethol. Mae'n hefyd yn bwydo a cadw golwg ar trefedigaethau cathod hanner gwyllt yn ogystal â dal, dirywio ac ail-ryddhau cathod hanner-gwyllt pan yn bosib. Mae sawl cyn-weithiwr wedi ennill achos llys yn erbyn Cats Protection oherwydd ymddiswyddo annheg.
Mae'r elusen yn gweithio mawen dau ffordd: Canghenni wedi eu rhedeg gan wirfoddolwyr a canghenni lloches. Y prif wahaniaeth ydy mai pobl â lle sbâr mewn ystafell neu ardd ar gyfer lloc neu ddau yw'r canghnnau gwirfoddol. Yn hytrach na ymweld a lloches ymroddedig, mae'r person sydd eisiau ail-gartrefu cath yn ymweld â gartref y gwirfoddolwr. Mae'r gwirfoddolwyr yn derbyn ychydig o arian oddiar pencadlys yr elusen ond does dim aelodau staff yn cael eu cyflogi.
Mae gan y canghennau llochesi ymroddedig, sawl lloches o amrywiaeth o feintiau ac mae'n yn cyflogi staff yn ogystal â gwirfoddolwyr. Dyma lle fydd y rhanfwyaf or cyhoedd yn ymweld os ydynt am ail-gartrefu cath. Yn ogystal â'r lloches, mae sawl coleddwr cathod yn nhîm y canghennau sy'n gewithio trwy gydol yr amser i ofalu am gathod au cael mewn cyflwr digon da i'w ail-cartrefu. Unwaith mae'r gath yn ddigod da i gael ei ail-gartrefu mae'n cael ei symyd i mewn i'r lloches. Yn ystod adegau prysur megis tymor cathod bach, gall person sydd eisiau mabwysiadu cath ymweld a gartref y coleddwr ac efallai neilltuo cath fach o'u dewis, bydd y pobl rhain yn dal yn gorfod cael ymweliad iw cartref yr un peth ac os byddent yn nôl y cath o'r lloches. Ond yn wahanol i ganghennau gwirfoddol, nid yw'r llochesi'n derbyn arian gan y pencadlys; rhaid rhoi unrhyw rodd ariannol i'r canghen er mwyn helpu cathod yn yr ardal penodol hwnnw. Mae canghen lloches yn gwbl hunan-ariannu. Mae sawl lloches yn cynnig mabwysiadu lloch, ac gall person gael eu henw ar blac ar y lloch am swm misol. Unigolion sy'n gwneud hyn fel arfer, ond mae rhai cwmniau yn gwneud hyn hefyd, yn ogystal â phlac, ceir y rhain sy'n mabwysiadu lloch gael newyddion rheolaidd gan y ganghen. Mae cathod yn cael eu profi ar gyfer afiechyd Felv ac Fiv cyn cael eu derbyn i ofal y llochesi. Os darganfyddir cath i ddioddef o un o'r firwsiau rhain, gall eu rhoi i lawr os nag oes lle iw gael mewn uned sy'n arbennigo mewn FIV (mae gan yrhai llochesi yr unedau rhain), er fod yr elusen yn falch o'i polisi o beidio a rhoi cathod iach i lawr.