Cecil Raleigh | |
---|---|
Ffugenw | Cecil Raleigh |
Ganwyd | Abraham Cecil Francis Fothergill Rowlands 27 Ionawr 1856 Aberystruth |
Bu farw | 10 Tachwedd 1914 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | dramodydd |
Priod | Effie Adelaide Rowlands, Saba Raleigh |
Ffugenw Abraham Cecil Francis Fothergill Rowlands (27 Ionawr, 1856 – 10 Tachwedd, 1914) oedd Cecil Raleigh. Roedd yn actor a dramodydd Cymreig.
Ganed Abraham Cecil Francis Fothergill Rowlands ar 27 Ionawr 1856 yn Aberystruth, Sir Fynwy, yn fab i Cecilia Anne Daniel Riley (1813-1911) a'i hail ŵr Dr. John Fothergill Rowlands (1823-1878). Cymerodd yr enw llwyfan Cecil Raleigh. Ar 19 Rhagfyr 1882, priododd Effie Adelaide Henderson (1859 - 16 Hydref 1936), nofelydd a gyhoeddodd o dan yr enw Effie Adelaide Rowlands ac yn ddiweddarach yn actio o dan yr enw llwyfan E. Maria Albanesi,[1] bu iddynt ysgaru yn ddiweddarach.[2] Ar 31 Mawrth 1894, ailbriododd ag Isabel Pauline Ellissen (8 Awst 1862-22 Awst 1923), actores a oedd yn defnyddio'r enw llwyfan Saba Raleigh.[3]
Chwaraeodd am gyfnod mewn theatr gerdd, ond gadawodd actio er mwyn ysgrifennu dramâu, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cydweithrediad ag eraill, cynhyrchodd dramâu, felodramâu a darnau cerddorol, a lwyfannwyd yn bennaf yn y Comedy Theatre, Llundain, ac yn y blynyddoedd diweddarach yn Drury Lane.
Mae Cheer, Boys, Cheer (1895); Hearts are Trumps (1899); The Best of Friends (1902); a The Whip (1909–10) yn enghreifftiau nodweddiadol o'i ddramâu, ond roedd yn arbennig o lwyddiannus gyda'i ddarnau cerddorol megis Little Christopher Columbus (1893), Dick Whittington and His Cat (1894), The Yashmak (1897) a The Sunshine Girl (1912).
Yn ddiweddarach gwnaed sawl un o'i ddramâu yn ffilmiau. Gweithiodd fel beirniad drama i ddau neu dri o bapurau Llundain, a daeth yn ysgrifennydd i'r Ysgol Celf Ddramatig yn Gower Street, Llundain.[4]
Cyd-ysgrifennodd The Derby Winner, 1894, gyda Henry Hamilton ac Augustus Harris, a gynhyrchwyd yn yr Unol Daleithiau o dan y teitl The Sporting Duchess a'i addasu ar gyfer ffilm ym 1915 a 1920 ymysg ei ddramau eraill oedd:
Bu farw ym 1914 a rhoddwyd ei olion i orffwys ym Mynwent Golders Green, Llundain [5]