Charles Alfred Bell | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1870 ![]() Kolkata ![]() |
Bu farw | 1945 ![]() Victoria ![]() |
Dinasyddiaeth | y Raj Prydeinig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | diplomydd, gwleidydd, geiriadurwr, ieithydd, llenor, arbenigwr mewn astudiaethau Tibetaidd ![]() |
Gwobr/au | Cydymaith Urdd St.Mihangel a St.Siôr, Knight Commander of the Order of the Indian Empire ![]() |
Tibetolegwr Eingl-Indiaidd a aned yn Calcutta oedd Syr Charles Alfred Bell (31 Hydref 1870 – 8 Mawrth 1945). Cafodd yrfa hir fel swyddog gwleidyddol ac ysgrifennodd sawl cyfrol ar hanes, iaith, a diwylliant Tibet.
Astudiodd Bell yng Ngholeg Winchester, Lloegr. Ar ôl ymuno â Gwasanaeth Sifil India cafodd ei apwyntio yn Swyddog Gwleidyddol yn Sikkim yn 1908. Daeth yn ffigwr amlwg a dylanwadol yng ngwleidyddiaeth Sikkim a Bhwtan, ac yn 1910 cyfarfu a'r 13eg Dalai Lama, a oedd wedi ffoi i alltudiaeth dros dro yn India ar ôl i Tsieina ymyrryd yn Nhibet. Daeth i adnabod y Dalai Lama yn weddol dda ac yn nes ymlaen ysgrifennodd ei fywgraffiad (Portrait of a Dalai Lama, cyhoeddwyd yn 1946).
Treuliodd gyfnodau fel Swyddog Gwleidyddol Prydeinig, yn cynrychioli buddianau yr India Brydeinig, yn Bhwtan, Sikkim a Tibet, gan gynnwys cyfnod yn Lhasa. Rhoes hyn y cyfle iddo deithio'n eang a dysgu Tibeteg. Ffrwyth hyn oll oedd cyfres o lyfrau pwysig ar Dibet a'i diwylliant sy'n amlygu ei gydymdeimlad amlwg â'r wlad a'i phobl, cydymdeimlad sy'n mynd mor bell ag i gondemnio polisïau Prydain yn yr ardal, a adawodd Dibet yn agored i ymyrraeth gan Tsieina.
Fel ieithydd, cyhoeddodd ramadeg Tibeteg a geiriadur Saesneg-Tibeteg, a gyhoeddwyd yn 1905. Roedd yn adnabod yr ieithydd Tibeteg a geiriadurwr Sarat Chandra Das ac yn ymgynghori ag ef yn ei fila yn Darjeeling.
Ymddeolodd i Rydychen yn 1920, lle ymroddodd i ysgrifennu ei gyfrolau ar Dibet. Gadawodd nifer o'i luniau o Dibet i Amgueddfa Pitt Rivers yn Rhydychen, lle maent i'w gweld o hyd. Bu farw yn Canada yn 1945.