Charles Collett

Charles Collett
Ganwyd10 Medi 1871 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ebrill 1952 Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd, peiriannydd rheilffyrdd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Prif ddyluniwr a pheiriannydd rheilffyrdd o Loegr oedd Charles Benjamin Collett (10 Medi 18715 Ebrill 1952). Aeth i ysgol Merchant Taylors yn Llundain ac wedyn Prifysgol Llundain cyn gweithio i gwmni peiriannau Chwmni Mawdslay.

Symudodd i Reilffordd y Great Western fel dyluniwr ym Mai 1893. Erbyn 1897 roedd o'n gyfrifol am gynllunio adeiladau, ac ym 1898 yn gynortthwyydd i'r brif ddyluniwr. Daeth o'n ddirpwy reolwr Gwaith Swindon ym 1900, ac ym 1912 daeth yn rheolwr. Daeth o'n ddirpwy brif-beirianydd y rheilffordd ym Mai 1919. Ar ôl marwolaeth George Jackson Churchward daeth yn beif beiriannydd, yn Ionawr 1922.

Cynlluniodd o locomotifau Dosbarth 'Castle', y locomotifau mwyaf pwerus ym Mhrydain ar y pryd, ac yn hwyrach y Dosbarth 'King' hyd yn oed fwy pwerus. Ond yn gyffredinol, canolbwyntiodd o ar ddatblygu cynlluniau Churchward.

Gadawodd y rheilffordd yn 69 oed a symudodd i Wimbledon, lle bu farw yn 80 oed yn 1952.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]