Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Roald Dahl |
Cyhoeddwr | Alfred A. Knopf |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Iaith | Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1964 |
Genre | ffantasi, children's fiction |
Olynwyd gan | Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llyfr ffantasi i blant gan Roald Dahl yw Charlie a'r Ffatri Siocled (Charlie and the Chocolate Factory), sy'n dilyn anturiaethau Charlie Bucket yn ffatri siocled Willy Wonka.
Cyhoeddwyd y stori Saesneg wreiddiol yn yr Unol Daleithiau ym 1964, gan Alfred A. Knopf Inc., ac yn y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf yn 1967 gan George Allen & Unwin. Mae wedi cael ei gyfieithu i 32 o wahanol ieithoedd. Cyhoeddwyd yn y Gymraeg gyntaf yn 2002, gan Rily Publications, y cyfieithiad gan Elin Meek.
Addaswyd y llyfr yn ddwy ffilm, Willy Wonka & the Chocolate Factory ym 1971, a Charlie and the Chocolate Factory yn 2005. Cyhoeddwyd dilyniant i'r llyfr yma, sef Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr (Saesneg: Charlie and the Great Glass Elevator), ym 1972. Roedd Dahl wedi bwriadu ysgrifennu trydydd llyfr yn y gyfres ond ni orffennodd hi.[1]
Mae Charlie Bucket, un ar ddeg oed, yn byw mewn tlodi mewn tŷ bach gyda'i rieni a phedwar o neiniau a theidiau.