Chris Ruane AS | |
---|---|
Llun seneddol swyddogol, Mehefin 2017 | |
Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd | |
Yn ei swydd 8 Mehefin 2017 – 6 Tachwedd 2019 | |
Rhagflaenydd | James Davies |
Olynydd | James Davies |
Mwyafrif | 2,379 (6.1%) |
Yn ei swydd 1 Mai 1997 – 30 Mawrth 2015 | |
Rhagflaenydd | Sefydlwyd yr etholaeth |
Olynydd | James Davies |
Manylion personol | |
Ganwyd | Rhyl, Sir Ddinbych | 18 Gorffennaf 1958
Cenedligrwydd | Prydeinig |
Plaid wleidyddol | Llafur |
Gŵr neu wraig | Gill Roberts[1] |
Gwleidydd Llafur yw Christopher Shaun Ruane (ganed 18 Gorffennaf 1958). Roedd yn Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd rhwng 1997 a 2015 ac eto rhwng 2015 a 2019. Bu'n Ysgrifennydd Seneddol Preifat (PPS) i Peter Hain o 2003 hyd at 2007, pan ymddiswyddodd mewn protest yn erbyn penderfyniad y llywodraeth i adnewyddu Trident.
Mynychodd Ysgol Gynradd Eglwys Gatholig Mair yn Rhyl. Fe aeth wedyn i Ysgol Uwchradd Edward Jones (dair mlynedd uwchlaw Carol Vorderman) ar Ffordd Cefndy yn Rhys ac wedyn Fflint. Aeth i Brifysgol Cymru Aberystwyth, lle graddiodd gyda BSc mewn economeg yn 1979. Yna aeth i Brifysgol Lerpwl lle cafodd gymhwyster athro yn 1980. Roedd yn gynghorydd tref o 1988 ac yn Gadeirydd NUT ar gyfer Gorllewin Clwyd.
Roedd yn athro ysgol gynradd o 1982-97 ac yn ddirprwy bennaeth o 1991 i 1997.
Ymgeisiodd am sedd Gogledd Orllewin Clwyd yn 1992, etholaeth a gafodd ei chreu yn 1983 ac a ddaeth i ben yn 1997.
Daeth yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Peter Hain o 2003 hyd at ei ymddiswyddiad ym Mawrth 2007 pan y protestiodd ynglŷn â phenderfyniad ail wneud Trident.
Yn 2003, pleidleisiodd Ruane o blaid Rhyfel Irac.
Collodd ei sedd i James Davies yn Etholiad Cyffredinol 2015. Er hyn, fe safodd i gael ei ail-ethol ar gyfer etholaeth Ddyffryn Clwyd yn etholiad 2017 ac ail-ennill y sedd.[2]
Roedd Ruane yn wrthwynebus i Brexit cyn y bleidlais.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd 1997 – 2015 |
Olynydd: James Davies |
Rhagflaenydd: James Davies |
Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd 2017 – 2019 |
Olynydd: James Davies |