Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Colin Lewis |
Dyddiad geni | 27 Gorffennaf 1939 |
Dyddiad marw | 4 Mawrth 2022 | (82 oed)
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Tîm(au) Amatur | |
Tîm(au) Proffesiynol | |
1967- |
Prydain |
Prif gampau | |
7fed Ras Ffordd Gemau Olympaidd 1964 Pencampwr Cenedlaethol Ras Ffordd 1967 & 1978 | |
Golygwyd ddiwethaf ar 17 Medi, 2007 |
Seiclwr proffesiynol Cymreig oedd Colin Lewis (27 Gorffennaf 1939 – 4 Mawrth 2022). Dechreuodd Seiclo yn 19 oed. Dewiswyd ef i gystadlu yn Milk Race 1960 a gorffenodd yn seithfed safle. Cystadleuodd drost Brydain yn Tour de L'Avenir a Phencampwriaethau'r Byd, San Sebastiien[1]. Bu'n aelod o'r un tîm ac yn rhannu ystafell â Tom Simpson cyn ei farwolaeth yn 1967 oherwydd defnydd cyffuriau[2]. Roedd Colin wedi cyfaddef yn 1966 mai'r rheswm nad oedd wedi ymuno â thîm proffesiynol Ewropeaidd ar y pryd, oedd oherwydd nad oedd eisiau urhywbeth i'w wneu'd â'r diwylliant o defnyddio cyffuriau a oedd yn bodoli ar y pryd[3]. Colin oedd y Seiclwr Cymreig ddiwethaf i reidio'r Tour de France yn 1968 tan Geraint Thomas yn 2007.
Cyrhaeddodd uchafbwynt ei yrfa yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 1964. Yno, ef oedd y seiclwr Prydeinig a orffenodd yn y safle uchaf pan orffenodd Ras Ffordd Dynion Unigol mewn amser o 4:39:51.74, a gorffen yn 25ed safle. Yng Ngemau'r Gymanwlad yn Jamaica, methodd ar y cyfle o ennill medal.
Trodd yn broffesiynol yn 1967, a gorffennodd y Tour de France dros dîm cenedlaethol Prydain. Ef yw'r unig seiclwr i ennill dau buddugoliaeth canlynol ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd Proffesiynol yn Essex, yn 1967 a 1968.
Erbyn iddo ymddeol roedd wedi ennill 250 o fuddugoliaethau, 38 o rheiny tra'n broffesiynol, gan gynnwys y Golden Wheel Trophy a'r Linz am Rhine[1].
Roedd Colin yn benderfynnol o gario 'mlaen i ymwneud â'r byd seiclo ar iddo ymddeol, felly yn 1976 sefydlodd Deliwraeth feics Colin Lewis. Pan ddaeth yn berchennog y siop feics, gwnaethwyd ef yn reolwr Cylchffordd Seiclo Eastway yn Hackney, a gwariodd y 7 mlynedd canlynol fel Cyfarwyddwr Hyfforddi, Canolfan Rhagoriaeth y De Ddwyrain[1].
Erbyn hyn mae'n byw yn Nyfnaint gyda'i wraig Pam, ac yn llywydd Mid-Devon Cycling Club[2]. Bydd yn Hyfforddwr ar deithiau EuroCycler ar draws Sbaen.