Cowboy Bebop

Clawr y DVD.

Cowboy Bebop (カウボーイビバップ, Kaubōi Bibappu) yw cyfres anime Japaneaidd. Fe'i hysgrifenwyd gan Keiko Nobumoto, fe'i chyfarwyddwyd gan Shinichirō Watanabe ac fe'i chynhyrchwyd gan Sunrise ar ddiwedd y 1990au. Mae yna 26 pennod sydd wedi'u gosod yn y flwyddyn 2071. Mae'r gyfres yn dilyn antur grŵp o helwyr ced (bounty hunters), neu "gowbois", wrth iddynt deithio cysawd yr haul yn eu llong ofod, y Bebop.

Fe seilir Cowboy Bebop ar gerddoriaeth Americanaidd, yn enwedig mudiadau jazz y 1940-60au, a chyfnod roc cynnar yn 1950au-70au.[1] Fe elwir penodau yn "sesiynau", gyda phob un yn dilyn thema gerddorol wahanol, ac fe fenthycir teitlau penodau o albymau nodweddiadol neu enwau caneuon (e.e. "Sympathy for the Devil", "Bohemian Rhapsody", "Honky Tonk Women", "My Funny Valentine") neu fe ddefnyddir enw genre (e.e. "Mushroom Samba", "Waltz on Venus").

Roedd Cowboy Bebop yn llwyddiant masnachol yn Japan a gweddill y byd, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Yoko Kanno's score is equally eclectic, evoking Charlie Parker, Charlie Musselwhite, Johnny Cash and U2." Kyle Nicholas (June 16, 2006). "'The Work Which Becomes a New Genre Itself': Textual Networks in the World of Cowboy Bebop". Paper presented at the annual meeting of the International Communication Association, Dresden International Congress Centre, Dresden, Germany. All Academic, Inc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-13. Cyrchwyd 2009-10-08.
Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm anime. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.