Cwm Rhymni

Cwm Rhymni
Mathdyffryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerffili Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6978°N 3.2294°W Edit this on Wikidata
Map

Dyffryn ym mwrdeisdref sirol Caerffili yn ne Cymru yw Cwm Rhymni (Saesneg: Rhymney Valley). Mae'n cynnwys tref Rhymni a phentrefi Tredegar Newydd, Pontlotyn a Fochriw. Arferai fod yn enwog am ei diwydiant glo a diwydiannau eraill, megis haearn.

Crëwyd y cwm gan rewlifoedd; yn awr mae Afon Rhymni yn llifo tua'r de i gyfeiriad Caerdydd. Arferai'r afon ffurfio'r ffin rhwng Sir Forgannwg a Sir Fynwy. Tyfodd y boblogaeth yn sylweddol yn ystod y 19g gyda datblygiad diwydiant yma. Ymhlith enwogion y cwm mae'r bardd-löwr Idris Davies.

Mae'r briffordd A469 a Rheilffordd Cwm Rhymni yn cysylltu'r cwm â Chaerdydd. Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yma ym 1990.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato