UEFA | |
---|---|
[[File:|150px|Association crest]] | |
Sefydlwyd | 20 Rhagfyr 1919[1] |
Aelod cywllt o FIFA | 20 Ebrill 1923 |
Aelod cywllt o UEFA | 2 Mawrth 1955 |
Llywydd | Cezary Kulesza |
Gwefan | pzpn.pl |
Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl (Pwyleg: Polski Związek Piłki Nożnej; PZPN) yw corff llywodraethu pêl-droed yng Ngwlad Pwyl. Mae'n trefnu cynghreiriau pêl-droed Gwlad Pwyl (heblaw yr Ekstraklasa), Cwpan Gwlad Pwyl a thîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Pwyl. Mae wedi'i leoli ym mhrifddinas y wlad, Warsaw.
Cyn i Wlad Pwyl ennill ei hannibyniaeth wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl oedd yn cynnwys Pwyliaid talaith Galicia oedd yn rhan o Ymerodraeth Awstria-Hwngari ond nad oedd â statws ryngwladol llawn o fewn FIFA (gan i Gymdeithas Bêl-droed Awstria wrthwynebu).[2]
Sefydlwyd y ffederasiwn cwbl annibynnol ar 20 Rhagfyr 1919 gan amlyncu'r Undeb Pêl-droed Pwylaidd ymreolaethol (PFU) a oedd yn rhan o Undeb Pêl-droed Awstria a oedd wedi chwalu. Sefydlwyd y PFU ar 25 Mehefin 1911[3] yn Lwów yn Ymerodraeth Awstria-Hwngari, sef Lviv yn Wcráin bellach. Rhwng 1911 a 1919 chwaraeodd tîm cenedlaethol Gwlad Pwyl dair gêm yn stadiwm Czarni Lwów. Roedd y tîm yn cynnwys chwaraewyr o ddinas Lwów yn bennaf.
Pan oresgynnodd y Wehrmacht Wlad Pwyl ym mis Medi 1939, diddymwyd yr holl sefydliadau a chymdeithasau Pwylaidd, gan gynnwys y PZPN. Gwaharddodd lluoedd meddiannaeth yr Almaen y Pwyliaid i drefnu gemau pêl-droed.[4]
Ar 4 Chwefror 1951, yn seiliedig ar benderfyniad a fabwysiadwyd yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl yn Warsaw, diddymwyd y Gymdeithas a sefydlwyd yr Adran Bêl-droed fel sefydliad cymdeithasol oedd yn eilradd i'r Prif Bwyllgor Diwylliant Corfforol. Nid penderfyniad annibynnol Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl oedd diddymu eu hunan, ond penderfyniad gwleidyddol plaid ac awdurdodau gwladwriaeth Gweriniaeth Pobl Gwlad Pwyl (gweriniaeth Gomiwnyddol oedd yn rhan o'r Bloc Comiwnyddol) pan oedd Staliniaeth ar ei hanterth yng Ngwlad Pwyl, cyfnod pan oedd holl strwythurau'r wladwriaeth yn dod yn debyg i fodelau'r Undeb Sofietaidd. Yna mabwysiadwyd penderfyniadau union yr un fath gan awdurdodau pob cymdeithas chwaraeon, a ddaeth yn bwyllgorau yn GKKF (Główny Komitet Kultury Fizycznej; Prif Bwyllgor Diwylliant Corfforol).
Disodlodd SPN GKKF Gymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl yn ffurfiol ym mhob gweithgaredd oedd yn ymwneud â phêl-droed, gan ddod yn enwog am lawer o syniadau a drawsblannwyd o'r Undeb Sofietaidd,gan gynnwys dyfarnu teitl Pencampwr Gwlad Pwyl yn 1951 nid i enillydd Cynghrair Cyntaf Gwlad Pwyl, ond i enillydd y Cwpan Pwyleg.
Ar 9 Rhagfyr 1956, yn ystod Plenum Adran Bêl-droed GKKF yn Warsaw, ar gais Presidium y SPN GKKF, diddymwyd y sefydliad hwn ac ail-ysgogwyd y PZPN.[5] Daeth hyn yn sgil marw Stalin ym Mawrth 1953 a cychwyn cyfnod ychydig yn llai llym.
Yn y 1950au, dathlwyd Diwrnod Cymdeithas Bêl-droed Gwlad Pwyl ar 5 Mai.[6].
Ym mis Medi 2008, ataliwyd arweinyddiaeth y PZPN gan Bwyllgor Olympaidd Gwlad Pwyl am fynd yn “[groes] i'w statudau mewn modd sarhaus ac amharchus.”[7] Flwyddyn ynghynt, gwnaeth gweinidogaeth chwaraeon Gwlad Pwyl hefyd ymgais i fynd i'r afael â llygredd o fewn y PZPN, ond cafodd ei fygwth â gwaharddiad gan FIFA, sy'n gwahardd unrhyw fath o ymyrraeth gan y llywodraeth.[8] Ar 30 Hydref 2008, daeth Grzegorz Lato yn llywydd y PZPN. Ar 26 Hydref 2012, etholwyd Zbigniew Boniek yn llywydd ar ôl ennill 61 o bleidleisiau gan 118 o gynrychiolwyr.[9]
Daeth y gymdeithas bêl-droed yn 100 mlwydd oed gyda Chwpan y Byd U-20 FIFA 2019 yn ystod blwyddyn ei chanmlwyddiant. Yn 2019, cafodd Józef Klotz, a oedd wedi chwarae i dîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad Pwyl ac a laddwyd yn y Ghetto Warsaw yn ystod yr Holocost, ei anrhydeddu gan y Gymdeithas.[10][11]
Ar 28 Awst 2021, etholwyd Cezary Kulesza yn arlywydd.[12]