Enghraifft o'r canlynol | sefydliad gwleidyddol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1886 |
Cymru Fydd yw enw mudiad gwladgarol a sefydlwyd gan rai o Gymry Llundain yn 1886. [1]
Mewn ymateb i'r galw Gwyddelig am "ymreolaeth cartref", cynigiodd prif weinidog Rhyddfrydol y DU, William Gladstone ddau fesur ar ymreolaeth i Iwerddon yn 1886 a 1893, a fethodd y ddau.[2] Yn 1886, yr un flwyddyn ag y cynigiwyd y mesur cyntaf ar gyfer Iwerddon, sefydlwyd mudiad Cymru Fydd i hybu achos ymreolaeth i Gymru.[3] Dywed ffynhonnell arall y sefydlwyd Cymru Fydd flwyddyn yn hwyarch gan Tom Ellis. Prif amcan y mudiad oedd sefydlu corff deddfu cenedlaethol dros Gymru (ymreolaeth, ond ni awgrymwyd annibyniaeth) ac hefyd er mwyn sicrhau aelodau seneddol a fyddai'n cynrychioli Cymru'n drwyadl. Sefydlwyd hefyd Cyngor Cenedlaethol Cymru i gynrychioli'r blaid Rhyddfrydol yr un flwyddyn. Lawnsiwyd gylchgrawn o'r un enw yn 1888 o Ddolgellau; yn agos i le bu Tom Ellis yn byw.[4]
Roedd Lloyd George yn un o brif arweinwyr Cymru Fydd a oedd yn fudiad a grëwyd gyda'r nod o sefydlu Llywodraeth Gymreig[5] a "hunaniaeth Gymreig gryfach".[6] Sefydlwyd cymdeithasau cyntaf Cymru Fydd yn Lerpwl a Llundain yn 1887 ac yn y gaeaf gaeaf 1886-7, sefydlwyd ffederasiynau rhyddfrydol Gogledd a De Cymru.[7]
Elfen ganolog i raglen y mudiad oedd hunanlywodraeth i Gymru. Yr enw Saesneg ar y mudiad oedd Young Wales, sy'n adlewyrchiad bwriadol o'r mudiad Gwyddelig cyfoes dros hunanlywodraeth i Iwerddon Young Ireland. Y pwnc llosg arall gan y mudiad oedd datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Yn y gyfrol Wales (gol. Keidrych Rhys) dywed gwynfor Evans, (Cyfrol V; Rhif 8/9) Roedd y mudiad yn cynnig dyfodol gwell i bobl, a gafaelodd ym meddyliau'r Cymry; trawsnewidiwyd y mudiad yn 1894, a phersonoliaeth byrlymus Lloyd george oedd yn gyfrifol am y trawsnewid hwnnw.'[1]
Ymhlith aelodau mwyaf blaengar Cymru Fydd yr oedd yr hanesydd J.E. Lloyd (1861 – 1947), y llenor ac addysgwr O.M. Edwards (1858 – 1920) a'r ddau wleidydd Rhyddfrydol Tom Ellis (1859 – 1899)a David Lloyd George (1863 – 1945)[8]. Aelodau gweithgar eraill o'r mudiad oedd Beriah Gwynfe Evans (1848 – 1927) a Michael D. Jones (1822 – 1898).
Chwalodd mudiad Cymru Fydd yn 1896 ynghanol ymryson personol a rhwygiadau rhwng cynrychiolwyr Rhyddfrydol megis David Alfred Thomas.[3] [9]
Yng Nghas-gwent, yng ngwanwyn 1896, cafodd ergyd farwol, ond erbyn hynny, roedd llawer o ganghennau wedi eu sefydlu ledled Cymru, ac egin annibyniaeth wedi'i sefydlu ym meddyliau pobl. Roedd gan y mudiad aelod o staff llawn amser a thros 10,000 o aelodau yn ne Cymru. Mae'n debygol iawn, yn ôl William George yn ei gyfrol History of the First National Movement (Gwasg y Brython), mai gwrthdaro rhwng aelodau o'r Rhyddfrydwyr, a llwyddiant a ddaeth yn rhy gynnar, yn rhy fuan oedd y rheswm pam y methodd y mudiad. David Alfred Thomas oedd yr arweinydd yn erbyn annibyniaeth. Bu farw 4 o'r arweinyddion hefyd, tua'r un pryd: Thomas Gee (m. 1898), Tom Ellis (m. 1899), Michael D. Jones (m. 1898) a William Ewart Gladstone (m. 1898) - gwleidydd arall Rhyddfrydol a gredai mewn annibyniaeth i Iwerddon.
Er bod Cymru Fydd wedi dymchwel, roedd ymreolaeth yn dal i fod ar yr agenda, gyda’r rhyddfrydwr Joseph Chamberlain yn cynnig “Home Rule All Round” i holl genhedloedd y Deyrnas Unedig, yn rhannol er mwyn cwrdd â gofynion Iwerddon ond cynnal goruchafiaeth senedd imperialaidd San Steffan. Daeth y syniad hwn a ddisgynnodd o blaid yn y pen draw ar ôl i "de Iwerddon" adael y DU a daeth yn arglwyddiaeth yn 1921 a sefydlwyd gwladwriaeth rydd Iwerddon yn 1922.[10]
Roedd cylchgrawn o'r un enw'n bodoli cyn ffurfio'r mudiad (yn debyg i Gymdeithas yr iaith). Cyhoeddai'r mudiad ddau gylchgrawn, Cymru Fydd yn Gymraeg a Young Wales yn Saesneg. Bu'r mudiad yn ei anterth rhwng 1894–95, ond yna unodd gyda Ffederasiwn Rhyddfrydwyr Gogledd Cymru (ar 18 Ebrill 1895) gan alw'i hun 'Y Ffederaisn Gymreig Genedlaethol'.