Cynthia Ozick | |
---|---|
Ganwyd | Cynthia Shoshana Ozick 17 Ebrill 1928 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | nofelydd, llenor, awdur storiau byrion |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Medal y Dyniaethau Cenedlaethol, Gwobr PEN/Diamonstein-Spielvogel am Gelfyddyd y Traethawd, Gwobr PEN/Malamud, Gwobr O. Henry, honorary doctor of Brandeis University, honorary doctor of Georgetown University, National Book Critics Circle Award in Criticism |
llofnod | |
Awdures Iddewig, Americanaidd yw Cynthia Ozick (ganwyd 17 Ebrill 1928) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei nofelau, ei straeon byrion a'i thraethodau.
Ganed Cynthia Ozick yn Ninas Efrog Newydd, yr ail o ddau blentyn. Symudodd i'r Bronx gyda'i rhieni o Rwsia, Celia (Regelson) a William Ozick, perchnogion Fferyllfa Park View yng nghymdogaeth Bae Pelham. Fel merch, helpodd Ozick i rannu'r presgripsiynau i gwsmeriaid ei rhieni. O'i hamser yn y Bronx, mae'n cofio cerrig yn cael eu taflyd arni a chael ei galw'n "lladdwr Crist" wrth iddi redeg heibio'r ddwy eglwys yn ei chymdogaeth. Yn yr ysgol cafodd ei chywilyddio'n gyhoeddus am wrthod canu carolau Nadolig. Mynychodd Ysgol Uwchradd Hunter College yn Manhattan.[1][2][3][4]
Enillodd ei B.A. o Brifysgol Efrog Newydd ac aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Talaith Ohio, lle cwblhaodd M.A. mewn llenyddiaeth Saesneg, gan ganolbwyntio ar nofelau Henry James.[5]
Mae Ozick yn briod â Bernard Hallote, cyfreithiwr. Mae eu merch, Rachel Hallote, yn athro cysylltiol hanes yn SUNY Purchase ac yn bennaeth ar ei rhaglen astudiaethau Iddewig. Ozick yw nith yr Hebraist Abraham Regelson. Mae hi'n byw yn Westchester County, Efrog Newydd.[5]
Mae ffuglen a thraethodau Ozick yn aml yn ymwneud â bywyd America Iddewig, ond mae hefyd yn ysgrifennu am wleidyddiaeth, hanes, a beirniadaeth lenyddol. Yn ogystal, mae hi wedi ysgrifennu a chyfieithu barddoniaeth. Mae'r Holocost a'i ganlyniadau hefyd yn brif thema ganddi. Archwilia'r "hunan-ddrwg" o fewn pobl, ailadeiladu hunaniaeth ar ôl mewnfudo, trawma a symud o un dosbarth i'r llall.[6]
Dywed Ozick nad yw'n ysgrifennu o ddewis, ond oherwydd "a kind of hallucinatory madness. You will do it no matter what. You can’t not do it."[7]
Galwodd y nofelydd David Foster Wallace Ozick yn un o awduron cyfoes mwyaf America. Fe'i disgrifiwyd fel "the Athena of America’s literary pantheon", fel "Emily Dickinson of the Bronx," ac yn "one of the most accomplished and graceful literary stylists of her time".[8]
Bu'n aelod o Academi Celfyddydau a Llythyrau America, Academi Celf a Gwyddoniaeth America am rai blynyddoedd.