Daniel Evans (actor)

Daniel Evans
Ganwyd31 Gorffennaf 1973 Edit this on Wikidata
Y Rhondda Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor llwyfan, actor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr theatr, actor mewn theatr gerdd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auGwobr Laurence Olivier Edit this on Wikidata

Actor a chyfarwyddwr theatr o Gymro yw Daniel Evans (ganed 31 Gorffennaf 1973). Ers 2023 mae'n Gyd-Gyfarwyddwr Artistig y Royal Shakespeare Company.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Evans actio yn ifanc iawn, gan ddechrau cystadlu ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd pan oedd yn 5 neu 6 oed, yn ogystal â chymryd rhan mewn nifer o gynyrchiadau amatur.[1] Sylweddolodd beth hoffai wneud mewn bywyd pan oedd yn 8 oed, a phan oedd yn 17 mlwyddyn oed, enillodd Wobr Goffa Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Flwyddyn yn ddiweddarach, fe'i cadeiriwyd yn Eisteddfod yr Urdd.[2]

Mynychodd Ysgol Gyfun Rhydfelen (bellach Ysgol Gyfun Gartholwg) ger Pontypridd, ysgol cyfrwng Cymraeg sy'n wedi meithrin sgiliau nifer o actorion.

Gyrfa llwyfan

[golygu | golygu cod]

Fe hyfforddwyd Evans yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall rhwng 1991 a 1994,[3] ond ymunodd a'r Royal Shakespeare Company cyn cwblhau ei gwrs.[4] Yn y RSC cafodd rannau bach yn Coriolanus a Henry V,[4] cyn chwarae Lysander pan wnaeth cynhyrchiad Adrian Noble o A Midsummer Night's Dream deithio yn Efrog Newydd ac ar Broadway.

Ymddangosodd yn nrama dadleuol Cardiff East yn y Theatr Frenhinol Genedlaethol yn 1997,[3] a chwarae y prif ran yn Peter Pan,[5] gyda Ian McKellen a Claudie Blakley.

Wedi ei gyfarwyddo gan Trevor Nunn, ymddangosodd yn The Merchant of Venice a Troilus and Cressida,[3] a fe'i gastiwyd fel yr arwr yn yr opereta Candide,[4] oedd hefyd yn serennu Simon Russell Beale. Dyma'r rôl gyntaf lle roedd yn canu, a fe cafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Laurence Olivier Award am yr Actor Gorau mewn Sioe Gerdd yn 2000.[3]

Yn ogystal â Shakespeare a theatr draddodiadol, fe serennodd Evans mewn nifer o ddramâu arbrofol. Yn Theatr y Royal Court, ymddangosodd mewn dau ddrama newydd gan Sarah Kane: Cleansed a 4.48 Psychosis.[3][4]

Ar ôl llwyddiant Candide, castiwyd Evans mewn rhan gerddorol arall, y tro hwn yn y sioe gerdd Merrily We Roll Along gan Stephen Sondheim, a fe enillodd Wobr Laurence Olivier am yr Actor Gorau mewn Sioe Gerdd (2001).[3][6]

Yn dychwelyd i Shakespeare, fe chwaraeodd Ariel yng nghynyrchiad Michael Grandage o Y Dymestl yn theatr y Crucible Sheffield, gyda Derek Jacobi yn serennu fel Prospero (Shakesepeare).[7] Am hwn, a'i berfformiad yn y ddrama [Ghosts, fe enillodd Ail Wobr am Wobr Ian Charleson yn 2003.[3] Gyda'r RSC eto, fe ymddangosodd yn Measure for Measure a Cymbeline.[3][4]

Yn Nhachwedd 2005, fe serennodd mewn sioe gerdd arall gan Sondheim, Sunday in the Park with George yn theatr Menier Chocolate Factory yn West End Llundain, gan chwarae rôl yr arlunydd Ffrengig ôl-argraffiadol Georges Seurat, gyferbynAnna-Jane Casey. Fe'i gyfarwyddwyd gan Sam Buntrock, a roedd yn gynhyrchiad beiddgar, yn gwneud defnydd helaeth o animeiddio a thafluno i ddangos creu campwaith Seurat, A Sunday Afternoon on the Island of La Grande Jatte wrth iddo gael ei ddarlunio dros hyd y ddrama.[8]

Ar ddiwedd ei rediad byr yn y Menier, trosglwyddodd Sunday i'r Wyndam's Theatre mwy o faint, lle parhaodd tan mis Medi 2006. Fe enillodd bum gwobr Olivier,[6] yn cynnwys Actor Gorau mewn Sioe Gerdd i Evans, Actores Orau mewn Sioe Gerdd i Jenna Russell, a gymerodd drosodd gan Case ar ddiwedd rhediad y Menier, a Cynhyrchiad Sioe Gerdd Eithriadol.

Yn Ionawr 2008, fe gychwynnodd rhagolwg Sunday yn Studio 54, ar Brodway, Efrog Newydd, gyda Evans a Russell yn ail-gydio yn eu rhannau, a chast newydd o'r Roundabout Theatre Company. Fe agorwyd ar 21 Chwefror 2008 a caewyd ar 29 Mehefin.[9] Cafodd yr adfywiad ei enwebu ar gyfer 9 Gwobr Tony, ond ni enillodd,[3] gan cynnwys 'Gwobr Tony ar gyfer Perfformiad Gorau gan Brif Actor mewn Sioe Gerdd' i Evans, 'Gwobr Tony ar gyfer Perfformiad Gorau gan Brif Actores mewn Sioe Gerdd' i Russell, a 'Gwobr Tony ar gyfer Cyfarwyddo Gorau mewn Sioe Gerdd' i Sam Buntrock. Fe enwebwyd Evans hefyd ar gyfer gwobr 'Outer Critics Circle' am Actor Eithriadol mewn Sioe Gerdd, gwobr 'Drama League' am Berfformiad Nodedig, a gwobr 'Drama Desk' am Actor Eithriadol mewn Sioe Gerdd, er fe aeth y gwobrau i Paulo Szot (Outer Critics' Circle and Drama Desk), a Patti LuPone, yn y drefn honno.

Gyrfa ffilm a theledu

[golygu | golygu cod]

Ar deledu, mae wedi gweithio yn helaeth gyda'r BBC, yn enwedig ar ddramâu cyfnod, yn cynnwys ffilm Great Expectations (1989) gyda Ioan Gruffudd, cyfres Daniel Deronda gyda Hugh Dancy, a chyfres The Virgin Queen gyda Anne-Marie Duff.[3]

Wnaeth Evans ymddangosiadau cameo yn y cyfresi hirhoedlog Spooks, Dalziel and Pascoe a Midsomer Murders.[3]

Fe serennodd fel Daniel Llewellyn yn rhifyn arbennig Nadolig 2005 o Doctor Who, lle gyflwynyd David Tennant fel y Degfed Doctor.[10]

Fe ymddangosodd yn nghyfres The Passion yn wythnos y Pasg, fel Sant Matthew.[3]

Mae Evans wedi ymddangos mewn wyth ffilm hyd yma: A Midsummer Night's Dream, Cameleon, Be Brave, The Barber of Siberia, Y Mabinogi, Tomorrow La Scala!, The Ramen Girl.[3] a Les Miserables

Gyrfa cyfarwyddo

[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd Evans fel cyfarwyddwr yn 2005 gyda rhaglen ddwbl o ddramâu Peter Gill: Lovely Evening and In the Blue,[8] a blwyddyn yn ddiweddarach fe gyfarwyddodd cynhyrchiad Cymraeg o'r ddrama Esther.[11] Y flwyddyn honno fe gyfarwyddodd darlleniad o Total Eclipse, gan Christopher Hampton, ar gyfer pen blwydd theatr y Royal Court yn 50, sioe lle serennodd ynddi yn theatr Menier Chocolate Factory yn 2007.

Yn 2007, fe ddychwelodd Evans i Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall i gyfarwyddo cynhyrchiad myfyriwr o Certain Young Men, hefyd gan Peter Gill, gyda chast o wyth myfyriwr blwyddyn olaf.[12]

Ar 8 Ebrill 2009, fe enwyd Evans fel olynydd i Samuel West fel cyfarwyddwr creadigol Sheffield Theatres. Fe gychwynnodd ar ei waith ar ôl gwaith adnewyddu yn Theatr y Crucible, gyda'i dymor cyntaf yn Chwefror 2010.[13] Mae Evans wedi dweud nad yw'n bwriadu rhoi'r gorau i actio ar gyfer gwaith cyfarwyddo: "I don’t intend to give up acting … for the immediate future".[14]

Yn 2013, fe gyfarwyddodd Evans [15] y ddrama The Full Monty gan Simon Beaufoy.[16]

Yn 2015, fe gyfarwyddodd ddrama American Buffalo yn y Wyndham's Theatre.[17]

Ar 2 Rhagfyr 2015, fe'i apwyntiwyd fel cyfarwyddwr artistig newydd y Chichester Festival Theatre a bydd yn olynu Jonathan Church yng Ngorffennaf 2016.[18]

Ar 21 Medi 2022, cyhoeddwyd y byddai Evans a Tamara Harvey yn dod yn Gyd-Gyfarwyddwyr Artistig y Royal Shakespeare Company gan ddilyn Gregory Doran (fel Cyfarwyddwr Artistig Emeritws) ac Erica Whyman (Cyfarwyddwr Artistig Dros Dro) o Fehefin 2023.[19]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Mae Evans yn ddyn hoyw sydd wedi bod allan trwy gydol ei yrfa.[20] Wrth gael ei gyfweld gan The Daily Telegraph yn 2014 dwedodd nad oedd pethau yn hawdd yn ei ieuenctid a fe gafodd ei fwlio yn yr ysgol, gan ddweud: "Doedd e ddim yn cael ei ganiatáu pan dyfes i fyny. Roedd hi'n ddiwylliant macho iawn a roedd y teimlad o beidio i hynny yn anodd iawn." [21]

Yn 2011, mewn cyfweliad gyda The Guardian, fe ddatgelodd ei fod, yn ei lencyndod, yn dianc drwy "fynd ar deithiau bws a threnau i Stratford" i wylio cynyrchiadau RSC. Wrth sôn am ei fagwraeth yng Nghymru, dywedodd Evans, "Mae fy nheulu yn byw yno o gyd. Roedden nhw'n rhyddfrydol iawn, diolch byth, ac yn dal i fod. Fe wnaethon nhw fy annog i".[22]

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Ffilm
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1996 A Midsummer Night's Dream Lysander
1997 Cameleon Elfed Davies
1997 Be Brave Lawrence Gwobr BAFTA am Ffilm Gorau
Enwebwyd—Gwobr BAFTA am Actor Gorau
1998 The Barber of Siberia Andrew McCracken (mewn masg)
2002 Tomorrow La Scala! Jonny Atkins
2003 Y Mabinogi Manawydan (Dan)
2003 Dal: Yma/Nawr dyn dan artaith (Y Gododdin)
2008 The Ramen Girl Charlie
2012 Les Misérables Pimp (Montreuil-sur-mer)
Teledu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1987 Eye of the Dragon Robin Richards Cyfres teledu
1987 Dramarama Anhysbys Pennod: "A Spirited Performance"
1995 Soldier Soldier LCpl Alun Griffiths Pennod: "The Army Game"
1999 Great Expectations Herbert Pocket Ffilm deledu
2000 Doctors Jason Bridger Pennod: "All That Glitters"
2001 Love in a Cold Climate Cedric Cyfres deledu
2001 The Vice Aaron Multiple Guest Arc
– "Force of Nature"
– "Falling"
2001 Being Dom Joly Actor Ffilm a Hysbysebion Ffilm deledu
2002 Helen West Daniel Maley Pennod: "Deep Sleep"
2002 Daniel Deronda Mordecai Multiple Guest Arc
– "Pennod #1.2"
– "Pennod #1.3"
2004 Carrie's War Frederic Evans Ffilm deledu
rhestrwyd fel Daniel Roberts
2004 Spooks Defence QC Pennod: "Persephone"
2004 To the Ends of the Earth Parson Colley Pennod: "Rites of Passage"
2005 Doctor Who Danny Llewellyn Pennod: "The Christmas Invasion"
2005 Dalziel and Pascoe Rob Miclean Multiple Guest Arc
– "Houdini's Ghost: Part 1"
– "Houdini's Ghost: Part 2"
2006 The Virgin Queen Robert Cecil Pennod: "Episode #1.4"
2007 Midsomer Murders David Mostyn Pennod: "Death and Dust"
2008 The Passion Matthew Cyfres deledu

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyfweliad Ticketmaster â Daniel Evans Archifwyd 2009-08-14 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 07-03-2009
  2. Gwefan y BBC Adalwyd 07-03-2009
  3. 3.00 3.01 3.02 3.03 3.04 3.05 3.06 3.07 3.08 3.09 3.10 3.11 3.12 "Hamilton Hodell – Daniel Evans". Hamilton Hodell. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-05. Cyrchwyd 1 March 2008.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 "BBC – Wales – Daniel Evans Interview". BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-03-14. Cyrchwyd 1 March 2008.
  5. "National Theatre: Peter Pan (1997 production)". Royal National Theatre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-14. Cyrchwyd 1 March 2008.
  6. 6.0 6.1 "Laurence Olivier Awards: Past Winners". Official London Theater Guide. Cyrchwyd 2 March 2008.
  7. Wolf, Matt (23 January 2003). "Theatre Review: The Tempest". Variety. Cyrchwyd 2 March 2008.
  8. 8.0 8.1 "Our Patron - London Young Sinfonia". London Young Sinfonia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 10 March 2015.
  9. Rubin, Robert. "Broadway, Sunday in the Park with George Review". New York Theatre Guide. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2 March 2008.
  10. Lyon, Shaun (15 September 2005). "TV Series Update". Outpost Gallifrey. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-09. Cyrchwyd 2 March 2008.
  11. "The Big Interview: Daniel Evans". Official London Theatre Guide. 18 May 2006. Cyrchwyd 2 March 2008.
  12. "Guildhall School of Music & Drama: Acting Graduates include..." Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-27. Cyrchwyd 11 June 2008.
  13. Higgins, Charlotte (8 April 2009). "Daniel Evans takes the reins at Sheffield Theatres". London: The Guardian. Cyrchwyd 4 August 2009.
  14. "Sheffield Appoints Daniel Evans as New Director". Whatsonstage.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-16. Cyrchwyd 20 September 2009.
  15. "Daniel Evans interview: the man who brought hot stuff to Sheffield". telegraph.co.uk. The Daily Telegraph. 7 February 2014. Cyrchwyd 23 March 2014.
  16. "Stripped of its integrity by a Broadway musical, The Full Monty is back on the British stage again – and it's more revealing than ever". dailymail.co.uk. Daily Mail. 8 February 2013. Cyrchwyd 24 March 2014.
  17. Mitford, Oliver."Damian Lewis soon to appear on stage in American Buffalo" Best of Theatre, January 8, 2015
  18. "Daniel Evans chosen to succeed Jonathan Church as artistic director at Chichester". guardian.com. The Guardian. 2 December 2015. Cyrchwyd 2 December 2015.
  19. "Daniel Evans and Tamara Harvey are an inspired duo to lead the RSC". the Guardian (yn Saesneg). 2022-09-20. Cyrchwyd 2022-09-23.
  20. Raymond, Gerald (19 June 2008). "Breaking the Mold". Backstage. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-27. Cyrchwyd 1 September 2008.
  21. "Daniel Evans interview: the man who brought hot stuff to Sheffield". Telegraph.co.uk. 7 February 2014. Cyrchwyd 31 January 2015.
  22. Jay Rayner. "Daniel Evans: 'I'm proud of my connection with Stephen Sondheim'". The Guardian. Cyrchwyd 31 January 2015.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]