Daniel Gooch | |
---|---|
Ganwyd | 24 Awst 1816 Bedlington |
Bu farw | 15 Hydref 1889 Windsor |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | peiriannydd, gwleidydd, peiriannydd rheilffyrdd, dylunydd locomotif |
Swydd | Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | John Gooch |
Mam | Anna Longridge |
Priod | Margaret Tanner, Emily Burder |
Plant | Anna Longridge Gooch, Emily Jane Gooch, Sir Henry Daniel Gooch, 2nd Bt., Charles Fulthorpe Gooch, Alfred William Gooch, Frank Gooch |
Roedd Daniel Gooch (24 Awst 1816 – 15 Hydref 1889) yn beiriannydd, enwog am ei waith efo Rheilffordd y Great Western.
Ganwyd Gooch yn Bedlington. Daeth yn beiriannydd yn ffatri locomotifau Edward Pease a Robert Stephenson yn Newcastle upon Tyne, ac wedyn yng Ngwaith Haearn Tredegar. Daeth yn orychwylydd locomotifau i Reilffordd y Great Western ym 1837, yn 21 oed. Roedd ei locomotifau'n gyflymach na locomotifau rheilffyrdd eraill, oherwydd lled y cledrau, 7 troedfedd yn hytrach na led safonol y rheilffyrdd eraill. Cynlluniodd o gyfanswm o 340 math gwahanol o locomotifau. Cynlluniodd o Gwaith Rheilffordd Swindon. Gadawodd y rheilffordd ym 1864 i ganolbwyntio ar ddatblygiad cysylltiad telegraffig, a daeth yn gadeirydd y Cwmni Adeiladwaith a Cynhaliaeth Telegraff (Telcon) ac yn gyfarwyddwr Cwmni Telegraff Anglo-American. Goruchwyliodd ef osodiad y cebl cyntaf dros y Môr Iwerydd ym 1866, ac un arall o Brest i Ganada ym 1869. Ym 1865, daeth yn Aelod Seneddol i Cricklade hyd at 1885. Ym 1865, daeth yn gadeirydd Rheilffordd y Great Western.
Bu farw Gooch ar 15 Hydref 1889.[1]