Daniel Teklehaimanot | |
---|---|
Ganwyd | Daniel Teklehaimanot Girmazion 10 Tachwedd 1988 Debarwa |
Dinasyddiaeth | Eritrea |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Dimension Data, Cervélo Test, Orica-GreenEDGE, Cofidis |
Safle | dringwr |
Seiclwr proffesiynol o Eritrea ydy Daniel Teklehaimanot (ganed 26 Ionawr 1990).
Roedd Teklehaimanot yn rhan o raglen hyfforddi Canolfan Seiclo Byd yr UCI cyn arwyddo cytundeb gyda thîm seiclo Awstraldd newydd GreenEDGE yn 2012.[1] Tra yn y Ganolfan, derbyniodd ddiagnosis o tachycardia, a chafodd lawdriniaeth i gywiro hyn yn gynnar yn 2009. Dychwelodd i reidio erbyn mis Mai y flwyddyn honno, gan fynd yn ei flaen i orffen yn chweched yn y Tour de l'Avenir.[2] Yn 2010, bu'n reidio fel prentis dros dîm Cervélo TestTeam. Enillodd deitl cenedlaethol Affricanaidd yn y ras ffordd, treial amser a'r treial amser tîm yn 2010 hefyd, yn y categori o dan 23 yn ogystal â theitl y reidwyr hŷn. Bu'n fuddugol yn y Tour of Rwanda a'r Kwita Izina Cycling Tour, fel rhan o'r UCI Africa Tour 2010–2011[3] Cyfranogodd yng Ngemau Olympaidd 2012, gan ddod yn chwaraewr cyntaf Eritreaidd i wneud hynny tu allan i faes athletau; daeth yn 73ydd safle yn y ras ffordd. Yn 2012, ef oedd yr Eritreaid cyntaf erioed i gystadlu yn La Vuelta, gan ddarfod y ras yn 146ed.
Ymunodd Teklehaimanot â thîm MTN-Qhubeka ar gyfer tymor 2014, dan gytundeb dwy flynedd.[4] Yn 2015, enillodd crys World Tour cyntaf ar gyfer ei dîm yn y Critérium du Dauphiné, pan gipiodd y fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth Brenin y Mynyddoedd.[5] Wrth gystadlu yn Tour de France 2015[6] ynghŷd â Merhawi Kudus,[7] daeth yn Affricanwr croen ddu cyntaf erioed i gychwyn y Tour, pan groesodd y llinell cyntaf fel y reidiwr cyntaf o 198 i gychwyn y prologue.[8]
Daeth Teklehaimanot hefyd yn Affricanwr cyntaf i wisgo'r crys dot polca, wedi iddo ei hennill ar gymal 6 Tour de France 2015.[9]