Dannie Abse | |
---|---|
Ganwyd | 22 Medi 1923 Caerdydd |
Bu farw | 28 Medi 2014 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, llenor, meddyg ac awdur |
Priod | Joan Abse |
Gwobr/au | CBE, Gwobr Cholmondeley, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol |
Gwefan | http://www.dannieabse.com/ |
Bardd yn yr iaith Saesneg, meddyg ac un o awduron cyfoes mwyaf adnabyddus Cymru oedd Daniel Abse CBE neu Dannie Abse (22 Medi 1923 – 28 Medi 2014).[1][2]
Ganwyd Abse yn 161 Ffordd yr Eglwyswen, Gabalfa, Caerdydd yr ifancaf o bedwar plentyn i Rudolf Abse, perchennog sinema, a Kate, (née Shepherd) ei wraig. Roedd ei frawd, Leo Abse, yn Aelod Seneddol Pont-y-pŵl a Thorfaen. Roedd ei frawd Wilfred Abse yn seiciatrydd amlwg yn ymarfer yn yr Unol Daleithiau.[3]
Er bod y teulu yn un Iddewig mynychodd Abse ysgol Gatholig Sant Illtyd, Caerdydd. Wedi'r ysgol bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd cyn mynd i Lundain i astudio meddygaeth yng Ngholeg y Brenin.
Priododd Abse a Joan Mercer ym 1951. Roedd Joan Abse yn hanesydd ac awdur nifer o lyfrau gan gynnwys The Music Lover's Literary Companion (1988) a Voices in the Gallery (1986), a ysgrifennwyd ar y cyd a'i gŵr.[4] Bu iddynt dwy ferch ac un mab. Bu farw Joan mewn damwain car ar yr M4 yn 2005.
Cyflawnodd Abse ei Wasanaeth Cenedlaethol fel meddyg yn yr Awyrlu Brenhinol.
Wedi ymadael a'r awyrlu bu'n gweithio fel meddyg a oedd yn arbenigo yn anhwylderau'r frest. Parhaodd i weithio fel meddyg hyd 1989, ac wedi ymddeol rhoddodd ei amser i ysgrifennu, perfformio a golygu.[1]
Bu farw Abse yn Llundain ar 28 Medi 2014. Roedd yn gefnogwr hirdymor i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a chafodd ei farwolaeth ei nodi gan ffotograff ac erthygl yn rhaglen y clwb a chyhoeddiad hanner-amser yn y gêm gartref gyntaf ar ôl iddo farw. Plannwyd coeden er anrhydedd iddo yng ngardd goffa'r clwb yng ngwanwyn 2015.[5]