Edward Bond | |
---|---|
Bond yn 2001 | |
Ganwyd | Thomas Edward Bond 18 Gorffennaf 1934 Holloway, Llundain |
Bu farw | 3 Mawrth 2024 Llundain |
Priod | Elisabeth Pablé| |
Dramodydd, cyfarwyddwr theatr, bardd, damcaniaethwr dramatig a sgriptiwr o Loegr oedd Edward Bond neu Thomas Edward Bond (18 Gorffennaf 1934 – 3 Mawrth 2024). Roedd yn awdur tua 50 o ddramâu, yn eu plith Saved (1965), y cynhyrchiad oedd yn allweddol i ddileu sensoriaeth theatr yn y DU. Mae ei weithiau eraill a gafodd dderbyniad da yn cynnwys Narrow Road to the Deep North (1968), Lear (1971), The Sea (1973), The Fool (1975), Restoration (1981), a'r War trilogy (1985). Roedd Bond yn cael ei ystyried fel un o'r prif ddramodwyr byw [1] [2] ond bu'n hynod o ddadleuol oherwydd y trais a gyfleuwyd yn ei ddramâu, radicaliaeth ei ddatganiadau am y theatr a chymdeithas fodern, a'i ddamcaniaethau ar Y Ddrama.
Ganed Thomas Edward Bond ar 18 Gorffennaf 1934 i deulu is-ddosbarth gweithiol yn Holloway, Gogledd Llundain.[3] Yn blentyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd symudwyd ef i gefn gwlad, ond bu'n dyst i'r bomiau ar Lundain ym 1940 a 1944. [4] Mae'n debyg bod yr amlygiad cynnar hwn i drais a braw rhyfel wedi llunio themâu yn ei waith, tra bod ei brofiad o'r gwacáu [mudo] wedi rhoi ymwybyddiaeth iddo o ddieithrwch cymdeithasol a fyddai'n nodweddu ei waith ysgrifennu. [5]
Ei gysylltiad cyntaf â'r theatr oedd y music-hall, lle roedd ei chwaer yn arfer cael ei llifio'n ddwy, mewn sioe gonsuriwr. [6] Yn bedair ar ddeg oed, gwelodd berfformiad dadleuol o Macbeth Shakespeare gan Donald Wolfit. Eglurodd yn ddiweddarach mai'r perfformiad hwnnw oedd y tro cyntaf iddo gael profiadau trawmatig mewn dull y gallai ei ddal a rhoi ystyr iddo.
Yn bymtheg oed, gadawodd yr ysgol gydag addysg sylfaenol iawn, rhywbeth a ddeilliodd o ymdeimlad dwfn o allgáu cymdeithasol [5] a gyfrannodd yn sylweddol at ei dueddfryd gwleidyddol. [7] Addysgodd Bond ei hun, wedi'i ysgogi gan awydd trawiadol am wybodaeth. [8] Ar ôl swyddi amrywiol mewn ffatrïoedd a swyddfeydd, gwnaeth ei wasanaeth cenedlaethol ym Myddin Prydain yn Fienna rhwng 1953 a 1955. Yn ystod ei amser yn y fyddin, darganfuodd y trais noeth oedd yn cuddio tu ôl i'r ymddygiad cymdeithasol arferol, a phenderfynodd ddechrau ysgrifennu. [8]
Yn ôl yn Llundain, addysgodd ei hun yn y theatr tra’n gweithio, gwelodd bopeth o fewn ei allu ar y llwyfan ac ymarfer ei sgil trwy ysgrifennu sgetsys drama. [6] Gwnaeth perfformiadau Berliner Ensemble yn haf 1956 argraff arbennig arno. Ym Mehefin 1958, ar ôl cyflwyno dwy ddrama i'r Royal Court Theatre (The Fiery Tree a Klaxon in Atreus' Place, (heb eu cyhoeddi) fe'i gwahoddwyd i ymuno â'r grŵp o awduron oedd newydd ei ffurfio. [9] [10]
Ar ôl tair blynedd yn astudio gyda'i gyfoedion o awduron oedd eisoes yn adnabyddus (fel John Arden, Arnold Wesker, ac Ann Jellicoe), cafodd drama gyntaf go iawn Bond, The Pope's Wedding, ei llwyfannu fel "perfformiad heb addurn" nos Sul yn y Royal Court Theatre yn 1962. [11] Drama ffug naturiolaidd yw hon (mae'r teitl yn cyfeirio at "seremoni amhosibl") [11] wedi'i gosod yn yr Essex gyfoes ac yn cyfleu, trwy gyfres o amgylchiadau trasig, farwolaeth cymdeithas wledig a achoswyd gan safonau byw ôl-ryfel trefol. Mae Michael Mangan yn datgan yn y gyfrol Edward Bond bod The Pope's Wedding wedi derbyn "adolygiadau cymysg ond cyfeillgar yn bennaf". Roedd Bernard Levin o'r Daily Mail yn ei ganmol fel "tour de force rhyfeddol", ond fe'i beirniadwyd yn The Observer am fod yn "rhy eliptig". [12] Nododd Jenny S. Spencer yn Dramatic Strategies in the Plays of Edward Bond fod y ddrama'n cael ei chanmol fel "dechreuad addawol i ddramodydd newydd". [13] Ym 1980, rhestrodd yr academydd Frances Rademacher y ddrama ymhlith prif ddramâu Bond. [14] Yn 2014, canmolodd Michael Billington The Pope's Wedding fel drama gynnar "feistrolgar". [15]
Ystyriodd Bond mai ei ddramâu a ysgrifennwyd ar gyfer Théâtre National o Ffrainc a'r cwmni theatr-mewn-addysg Big Brum oedd ei weithiau pwysicaf. [16] Fodd bynnag, ysgrifennodd Benedict Nightingale o The New York Times yn 2001 fod y rhan fwyaf o feirniaid yn ystyried bod gweithiau gorau Bond wedi'u hysgrifennu rhwng 1965 a 1978. [17] Roedd erthygl olygyddol yn 2011 yn The Guardian yn honni bod "ei ddramâu diweddarach wedi'u diystyru'n ddirmygus yn aml fel damhegion Marcsaidd."[18] Dadleuodd Graham Saunders fod ei waith ym Mhrydain “yn fwyaf cysylltiedig â gwaith a gynhyrchwyd yn y cyfnod o Saved i The Sea ” a bod gweithiau diweddarach yn cael eu hystyried yn eilradd, tra yn Ffrainc ei fod yr un mor adnabyddus am ei weithiau newydd. [19] Yn 2005, ysgrifennodd Lyn Gardner fod corff ei waith yn yr 20 mlynedd blaenorol "yn sefyll ochr yn ochr â'i ddramâu clasurol". [20] Yn 2007, rhestrodd Peter Billingham y gweithiau diweddarach Restoration, The War Trilogy, Coffee, a Born ymhlith y prif ddramâu . [21] Dadleuodd Billington “hyd yn oed os yw Bond yn ei flynyddoedd olaf fel petai’n dechrau o sefyllfa o sicrwydd dogmatig, mae’n cadw ei allu i greu delweddau gwydn.” [15]
Daeth drama Bond Saved (1965) yn un o'r achosion mwyaf adnabyddus yn hanes theatr Prydain yn yr 20fed ganrif. Treiddiodd Saved i ddetholiad o fywydau ifanc dosbarth gweithiol De Llundain oedd wedi’u llethu – fel y byddai Bond yn ei weld – gan system economaidd greulon ac yn methu â rhoi ystyr i’w bywydau, sy’n troi, yn y pen draw, i drais barbaraidd. Yn eu plith, mae un cymeriad, Len, yn ceisio cysylltu ei hun â phobol sy'n llarpio'i hunan yn dreisgar a rheolaidd. [22] Mae’r ddrama yn cyfleu effaith cymdeithasol trais a'i wrthwynebu â rhyddid unigol. Dyma fyddai'r brif thema parhaol yng ngwaith Bond.
Cyfarwyddwyd y ddrama gan William Gaskill, cyfarwyddwr artistig y Royal Court ar y pryd. Yr oedd Deddf Theatrau 1843 yn dal mewn grym ac yr oedd yn ofynnol cyflwyno sgriptiau i'w cymeradwyo gan Swyddfa'r Arglwydd Chamberlain . Roedd Saved yn cynnwys golygfa yn cyfleu llabyddio babi i'w farwolaeth yn ei bram. Ceisiodd yr Arglwydd Chamberlain ei sensro, ond gwrthododd Bond newid gair, gan honni y byddai dileu'r olygfa ganolog hon yn newid ystyr y ddrama. Cafodd gefnogaeth gadarn gan Gaskill a'r Royal Court er ei fod dan fygythiad o helynt difrifol. Roedd ffurfio clwb theatr fel arfer yn caniatáu i ddramâu oedd wedi eu gwahardd oherwydd eu hiaith neu eu pwnc gael eu perfformio o dan amodau “clwb” – fel yr un yn y Theatr Gomedi, fodd bynnag roedd y English Stage Society yn cael eu herlyn. Ceisiodd ymgyrch weithredol wyrdroi’r erlyniad, gydag amddiffyniad angerddol yn cael ei gyflwyno gan Laurence Olivier, cyfarwyddwr artistig y National Theatre ar y pryd. Dyfarnodd y llys yr English Stage Society yn euog a rhoddwyd rhyddhad amodol iddynt. [23] [24]
Parhaodd Bond a'r Royal Court i herio'r sensor, ac ym 1967 cynhyrchodd ddrama newydd swreal, Early Morning. Mae'r ddrama yn portreadu perthynas lesbiaidd rhwng y Frenhines Victoria a Florence Nightingale, y Tywysogion brenhinol fel efeilliaid Siamese, Disraeli a'r Tywysog Albert yn cynllwynio coup a bod yr holl gymeriadau yn cael eu halltudio i nefoedd ganibalaidd ar ôl cwympo oddi ar Beachy Head. Llwyfannodd y Royal Court y ddrama er gwaetha'r gwaharddiad llwyr ac o fewn blwyddyn diddymwyd y gyfraith. [25] Ym 1969, pan lwyddodd y Royal Court i berfformio gwaith Bond yn gyfreithlon, teithiasant y tair drama yn Ewrop, gan ennill gwobr Gŵyl Theatr Ryngwladol Belgrade.[26] Seiliodd y profiad o erlyniad a chydgefnogaeth gysylltiad rhwng Bond a’r Royal Court lle byddai ei holl ddramâu (ac eithrio comisiynau allanol) yn cael eu llwyfannu am y tro cyntaf tan 1976, gyda’r rhan fwyaf yn cael eu cyfarwyddo gan Gaskill.
Tra bod gwaith Bond yn parhau i gael ei wahardd ym Mhrydain, daeth Saved yn llwyddiant rhyngwladol mwyaf ei gyfnod gyda mwy na deg ar hugain o wahanol gynyrchiadau ledled y byd rhwng 1966 a 1969, yn aml gan gyfarwyddwyr nodedig fel Peter Stein yn yr Almaen neu Claude Régy yn Ffrainc. [27] Bryd hynny, roedd y ddrama’n ddadleuol ym mhobman ond bellach yn cael ei hystyried fel clasur o’r 20fed ganrif. Cafodd Early Morning ei dirmygu'n wreiddiol, ond enillodd ganmoliaeth gan nifer o awduron yn y blynyddoedd diweddarach.
Cyfansoddodd Bond rhai gweithiau wedi'u comisiynu. Derbyniodd y ddrama ddychan Narrow Road to the Deep North (1968), ar gyfer Gŵyl Pobl a Dinas Coventry, adolygiadau cadarnhaol ar y cyfan, . Ysgrifennodd ddwy ddrama agit-prop ar gyfer perfformiadau gŵyl, Black Mass (1970) i goffau cyflafan Sharpeville a Passion (1971) ar gyfer Gŵyl Pasg CND. Disgrifiodd Spencer Black Mass a Passion fel gweithiau gyda “grym a hiwmor”. [28] Cyfansoddodd Bond Lear, yn seiliedig ar King Lear gan Shakespeare. Mae'r ddrama yn dilyn dadfeiliad brenin gormesol sy'n heneiddio. Ysgrifennodd David L. Hirst fod Lear wedi hollti''r beirniaid a chynulleidfaoedd tra bod Ronald Bryden yn nodi fod y ddrama wedi ennyn canmoliaeth gan feirniaid. Cynhyrchiad Patrice Chéreau o'r ddrama ym 1975 "sefydlodd Bond fel ffigwr cyfoes mawr yn Ffrainc". [29]
Mae'r gomedi Edwardaidd The Sea (1973) yn portreadu cymuned glan môr ar Arfordir Dwyrain Lloegr ychydig flynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, sy'n cael ei ddominyddu gan fenyw unbenaethol wedi'i llethu gan foddi un o'i dinasyddion ifanc. Wedi'i dylanwadu gan ei brofiad fel ifaciwî, mae'r ddrama wedi'i his-deitlo fel "comedi" ac fe'i bwriadwyd fel un optimistaidd ar ôl naws dywyll ei ddramâu blaenorol. [30]
Ym 1974 cyfieithodd Bond Spring Awakening (1891) gan y dramodydd Almaeneg Frank Wedekind, am atal rhywioldeb y glasoed.
Yna cyfansoddodd Bond ddau ddarn yn archwilio rôl yr artist mewn cymdeithas. Portreadodd Bingo (1974) Shakespeare fel landlord ecsbloetiol wedi ymddeol, tyst tosturiol o drais cymdeithasol, sydd yn y pen draw yn cyflawni hunanladdiad, gan ofyn iddo'i hun dro ar ôl tro "Was anything done?." Mae The Fool (1975) yn ailddehongli bywyd y bardd gwledig John Clare o'r 19eg ganrif. Ym 1976 enillodd Bingo wobr Obie fel y ddrama Orau oddi ar Broadway a phleidleisiwyd The Fool fel drama orau'r flwyddyn gan Plays and Players .
Parhaodd Bond yn ddramodydd llwyddiannus yn Lloegr drwy gydol y 1970au, gan ehangu ei ystod o ysgrifennu a'i gydweithrediadau. Gofynnodd theatrau sefydliadol a chymunedol am ei ddramâu, ar gyfer perfformiadau cyntaf ac adfywiadau, a chafodd ei gomisiynu i ysgrifennu dramâu gan sefydliadau enwog a chwmnïau o weithredwyr ymylol.
Rhoddodd Bond bryder gwleidyddol yn ei ddrama, The Woman, wedi'i gosod mewn Rhyfel Trojan ffantasïol ac yn seiliedig ar Trojan Women gan Euripides . Yn debyg i Lear, mae'n cyfleu brwydr y frenhines ddadfeiliedig, Hecuba, yn erbyn ymerodraeth Athen.
Dylanwadwyd yn uniongyrchol ar ei ddramâu o’r 1980au cynnar gan ddyfodiad y Blaid Geidwadol dan arweiniad Margaret Thatcher a’r newidiadau cymdeithasol dwys a ddaeth yn eu sgil.
Yng nghanol yr 1980au, cafodd gwaith Bond ddechrau newydd gyda'r drioleg The War Plays . Wedi'i ysgogi gan fygythiadau blynyddoedd olaf y Rhyfel Oer a'r actifiaeth wleidyddol ym Mhrydain ac Ewrop, roedd Bond wedi bwriadu ysgrifennu am ryfel niwclear ers dechrau'r 1980au.
Rhwng 1984 a 1985 ysgrifennodd dair drama i gwrdd â gwahanol geisiadau, a unwyd fel The War Plays . Mae’r gyntaf, Red Black and Ignorant (a ysgrifennwyd ar gyfer Gŵyl wedi’i chysegru i George Orwell ), yn ddrama agitprop fer lle mae plentyn, a gafodd ei erthylu a’i losgi i farwolaeth gan y bomiau niwclear byd-eang, yn cyrraedd o’r dyfodol i gyhuddo'r gynulleidfa o'i lofruddiaeth. Mae'r ail, The Tin Can People (a ysgrifennwyd ar gyfer cwmni o brotestwyr ifanc), yn gwadu ideoleg marwolaeth y gymdeithas gyfalafol. Mae'r trydydd, Great Peace (ysgrifennwyd ar gyfer yr RSC) yn ail-greu gwaith byrfyfyr Palermo mewn dinas sydd wedi goroesi yn dilyn bomio niwclear.
Rhwng 1997 a 2008, archwiliodd dramâu Bond y weledigaeth dywyll o gymdeithas yn y dyfodol (yn 2077) lle mae bygythiadau chwalfa gymdeithasol bosib a rheolaeth fio-wleidyddol wedi dod yn real ac yn strwythurol.
Roedd Bond yn briod ag Elisabeth Pablé o 1971 hyd ei marwolaeth yn 2017. [4] Yr oeddynt yn byw yn Great Wilbraham, swydd Gaergrawnt. [3] [31]
Bu farw Bond yn Llundain ar 3 Mawrth 2024, yn 89 oed. [32]
Dramâu
(Dyddiadau ysgrifennu, ac yna cyfarwyddwr, lleoliad a dyddiad première byd, os o gwbl)
Dramâu teledu
Dramâu radio
His death was confirmed by a representative for his talent agency, Casarotto Ramsay & Associates, who said Mr. Bond died in London but did not share additional details.