Edward Gordon Douglas-Pennant, Barwn 1af Penrhyn | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mehefin 1800 Efrog |
Bu farw | 31 Mawrth 1886 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | gwleidydd, person busnes |
Swydd | Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | John Douglas |
Mam | Frances Lascelles |
Priod | Mary-Louisa Douglas-Pennant, Juliana Isabella Mary Dawkins-Pennant |
Plant | George Sholto Gordon Douglas-Pennant, 2il Farwn Penrhyn, Eleanor Frances Susan Douglas, Caroline Elizabeth Emma Douglas-Pennant, Emma S. Douglas-Pennant, Archibald Charles Henry Douglas-Pennant, Harriett Douglas-Pennant, Louisa Mary Douglas-Pennant, Mary Douglas-Pennant, Eva Douglas-Pennant, Gertrude Douglas-Pennant, Adela Douglas-Pennant, Georgina Douglas-Pennant, Hilder Douglas-Pennant |
Edward Gordon Douglas-Pennant, Barwn 1af Penrhyn, neu Yr Hen Lord ar lafar yn ardal Bethesda, (20 Mehefin 1800 - 31 Mawrth 1886) oedd y Barwn Penrhyn cyntaf o'r ail greadigaeth.
Ganed ef yn Edward Gordon Douglas, o deulu uchelwrol Douglas yn yr Alban. Pan fu farw Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn yn 1808 dilynwyd ef gan ei gefnder, George Hay Dawkins (1763-1840). Roedd Douglas yn briod a merch Dawkins, Juliana, ac enwyd ef a Juliana fel cyd-etifeddion yr ystad ar yr amod eu bod yn cymryd y cyfenw Pennant. Newidiodd ei enw i Douglas Pennant yn 1841.
Gwnaed ef yn Farwn Penrhyn yn 1866. Roedd wedi bod yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon ers chwarter canrif pan wnaed ef yn Farwn, a rhoi'r gorau i'w sedd i fynd i Dŷ'r Arglwyddi.
Bu'n gyfrifol am dŵf enfawr yn Chwarel y Penrhyn, a gwnaeth y chwarel yntau yn ŵr cyfoethog dros ben. Yn 1859 amcangyfrifodd y Mining Journal fod Chwarel y Penrhyn yn gwneud elw o £100,000 y flwyddyn.
Er iddo fod mewn anghydfod a'r chwarelwyr nifer o weithiau, yn enwedig yn 1874 yn dilyn ffurfio Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru, ystyrid ei fod ef yn barotach i wrando ar ei weithwyr nag oedd ei fab, George Sholto Gordon Douglas-Pennant, 2ail Farwn Penrhyn, a'i olynodd.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Ralph Ormsby-Gore |
Aelod Seneddol Sir Gaernarfon 1841 – 1866 |
Olynydd: George Sholto Gordon Douglas-Pennant |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: Barwniaeth newydd |
Barwn Penrhyn 1866 – 1886 |
Olynydd: George Sholto Gordon Douglas-Pennant |