Edward John Sartoris | |
---|---|
Ganwyd | 1814 ![]() |
Bu farw | 23 Tachwedd 1888 ![]() Hampshire ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol ![]() |
Tad | Peter Sartoris ![]() |
Mam | Matilda Tunno ![]() |
Priod | Adelaide Kemble ![]() |
Plant | Greville Sartoris, Mary Sartoris, Algernon Sartoris ![]() |
Roedd Edward John Sartoris (tua 1814 – 23 Tachwedd 1888) yn dirfeddiannwr Prydeinig a gwleidydd Rhyddfrydol o dras Ffrengig.[1][2]
Roedd Edward yn fab hynaf Urban Sartoris o Sceaux, ger Paris a'i wraig Matilda (née Tunno), cafodd ei eni yn Llundain a chafodd ei addysg yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt. Ym 1842 priododd y gantores opera Adelaide Kemble. Ym 1863, ar farwolaeth ewythr ei fam, Edward Tunno, etifeddodd ystadau yn Warnford, Hampshire a Llangennech, Sir Gaerfyrddin. Roedd yr ystâd Cymreig yn cynnwys dyddodion mawr o lo[3]
Roedd Sir Gaerfyrddin yn cael ei gynrychioli yn Nhŷ'r Cyffredin gan ddau aelod seneddol wedi Deddf Diwygio Mawr 1832. Am nifer o flynyddoedd cyn 1868 tueddai etholiadau bod yn ddiwrthwynebiad, gyda'r ddau AS yn Geidwadwyr ac yn aelodau wedi eu dewis, yn ymarferol, gan deulu pwerus Campbell, Ieirll Cawdor.[4]
Wedi'r Ail Ddeddf Diwygio, a basiwyd ym 1867 cynyddodd yr etholfraint yn sylweddol, gan ganiatáu i nifer fawr o ddynion o'r dosbarth gweithiol i bleidleisio am y tro cyntaf. Bu hynny, ynghyd ag anghytundebau ymysg aelodau Blaid Geidwadol yr etholaeth parthed ddewis ymgeiswyr priodol ar gyfer y drefn newydd, yn rhoi hyder i Ryddfrydwyr Sir Gar i benderfynu ymladd etholiad cyffredinol 1868.[4][5]
Yn hytrach na dewis aelod o'r bonedd lleol cynhenid, dewisodd y Rhyddfrydwyr Sartoris fel eu hymgeisydd; dyn gweddol newydd i'r ardal un o'r tu fas, nad oedd yn ddarostyngedig i hen fuddiannau'r tirfeddianwyr traddodiadol. Roedd ei fuddiannau busnes yn Llanelli, ardal ddiwydiannol, oedd yn tyfu'n gyflym, a rhan o'r sir lle byddai'r etholfraint newydd ar ei gryfaf, yn fanteisiol iddo hefyd. Gyda pheiriant etholaethol effeithlon, a drefnwyd i raddau helaeth gan weinidogion anghydffurfiol yr ardal, sicrhaodd Sartoris buddugoliaeth ysblennydd, gyda'i 3,280 o bleidleisiau yn hawdd ennill sedd gyntaf yr etholaeth.
Dysgodd y Blaid Geidwadol a Chawdor gwers o gael eu trechu. Yn yr etholiad nesaf ym 1874 rhoddwyd mab ac etifedd Iarll Cawdor, yr Is-iarll Emlyn, yn ymgeisydd yn hytrach na chi arffed i'r teulu; a ddefnyddiwyd Y Sgriw (bygwth tenantiaid gyda'u torri allan a gweithwyr i gleientiaid Cawdor o golli eu gwaith); adenillwyd y sedd oddi wrth y Rhyddfrydwyr.
Wedi colli ei yrfa Seneddol ymddeolodd Sartoris i'w ystâd, Parc Warnford yn Hampshire, ym 1874. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno priododd ei fab, Algernon Sartoris, Nellie Grant, merch Arlywydd yr Unol Daleithiau Ulysses S. Grant, ar 21 Mai 1874 yn Ystafell Dwyreiniol y Tŷ Gwyn[6].
Roedd Satoris yn hwyliwr brwd ac ym 1878 enillodd ei gwch hwylio May Regata Afon Hamble.
Bu farw yn Hampshire ym mis Tachwedd 1888 yn 74 mlwydd oed
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David Pugh |
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin 1868 – 1874 |
Olynydd: Is-iarll Emlyn |