Edward Samuel | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1674 ![]() Penmorfa ![]() |
Bu farw | 8 Ebrill 1748 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | cyfieithydd, bardd ![]() |
Bardd a chyfieithydd o eglwyswr o Gymru oedd Edward Samuel neu Edward Samiwel[1] (1674 – 8 Ebrill 1748). Roedd yn fardd medrus ar y mesurau caeth, yn awdur llyfr ar yr Apostolion, ac yn gyfieithydd sawl llyfr crefyddol i'r Gymraeg. Roedd yn daid i David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg), a aeth gyda'r Capten James Cook ar ei fordaith olaf.
Ganed Edward Samuel ym mhentref Penmorfa, Eifionydd. Ar ôl graddio o Goleg Oriel, Rhydychen, dychwelodd i Gymru i fod yn offeiriad gan wasanaethu ym mhlwyfi Betws Gwerful Goch (1702-21) a Llangar yn Edeirnion (1721-48).
Roedd yn berthynas i fam John Williams (Ioan Rhagfyr).
Cyfansoddodd nifer o gerddi, yn gywyddau ac englynion a cherddi rhydd, yn cynnwys marwnad i'r bardd Huw Morys. Cyhoeddwyd rhai o'i gerddi yn y flodeugerdd boblogaidd Blodeu-gerdd Cymry (1759).
Ysgrifennodd Bucheddau'r Apostolion a'r Efengylwyr (1704). Cyfieithodd sawl llyfr Cristnogol, yn cynnwys cyfieithiad newydd o Holl Ddyledswydd Dyn (1718) a hefyd Gwirionedd y Grefydd Gristn'nogol (1716). Ceir cryn raen ar y rhyddiaith yn y gweithiau hyn.
Ceir un o'i gerddi yn y gyfrol Beirdd y Berwyn (Cyfres y Fil, 1902) ac eraill mewn rhai o'r blodeugerddi cynnar, ond erys y rhan fwyaf mewn llawysgrifau. Ef oedd awdur geiriau'r carol haf "Hinon ha'".[1]