El Lissitzky | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 10 Tachwedd 1890 (yn y Calendr Iwliaidd) ![]() Pochinok ![]() |
Bu farw | 30 Rhagfyr 1941 ![]() Moscfa ![]() |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, pensaer, dylunydd graffig, ffotograffydd, dylunydd math, athro, cynllunydd, teipograffydd, drafftsmon, artist, arlunydd ![]() |
Arddull | Swprematiaeth, Adeileddiaeth ![]() |
Mudiad | Adeileddiaeth, Swprematiaeth ![]() |
Priod | Sophie Lissitzky-Küppers ![]() |
Plant | Jen Lissitzky ![]() |
Roedd Lazar Markovich Lissitzky (Rwsieg: Ла́зарь Ма́ркович Лиси́цкий), (23 Tachwedd 1890 – 30 Rhagfyr 1941), El Lissitzky (Rwsieg: Эль Лиси́цкий) yn ffotograffydd, teipograffwr, dylunydd a phensaer Rwsiaidd ac yn ffigwr pwysig mewn celfyddyd avant-garde Rwsia.
Fe ddatblygodd yr arddull Suprematism gyda Kazimir Malevich ac fe ddyluniodd nifer fawr o bosteri propaganda ac arddangosfeydd ar gyfer yr Undeb Sofietaidd.
Mae Suprematism yn symudiad celf, o ddechrau’r 20g oedd yn canolbwyntio ar ffurfiau geometrig sylfaenol, fel cylchoedd, sgwariau a llinellau, wedi'u paentio mewn ystod gyfyngedig o liwiau. Fe'i sefydlwyd gan Kazimir Malevich yn Rwsia, tua 1913, ac chynhaliwyd arddangosfa yn St. Petersburg ym 1915, lle dangoswyd gwaith Malevich ac 13 o artistiaid eraill gyda gwaith mewn arddull debyg. Mae'r term Suprematism yn cyfeirio at gelfyddyd haniaethol yn seiliedig ar "oruchafiaeth deimlad artiffisial pur" yn hytrach nag ar ddarluniau gweledol o wrthrychau.
Roedd gwaith El Lissitsky yn ddylanwad mawr ar y Bauhaus a'r mudiad celfyddydol lluniadaethol (constructivist) a dylunio graffig yr 20g yn gyffredinol. Ymhlith enwau mawr a fu'n cyd-weithio oedd yr arlunwyr Marc Chagall, Kurt Schwitters, Wassily Kandinsky, László Moholy-Nagy, Theo van Doesburg, Alexander Rodchenko a'r bardd Vladimir Mayakovsky.
Fe gredai Lissitzky fod celfyddyd yn gallu newid a gwella bywyd, fel y gyhoeddodd yn "das zielbewußte Schaffen". (creu pwrpasol) [1].
O dras Iddewig, fe ddechreuodd ei yrfa yn darlunio llyfrau plant Iddew-Almaeneg (Yidish), fel rhan o ymdrechion i hyrwyddo diwylliant Iddewig yn Rwsia, gwlad oedd wedi dioddef hanes o wrth-Semitiaeth ond oedd newydd gael gwared â chyfreithiau yn erbyn Iddewon.
Fe ddechreuodd Lissitzky ddysgu fel athro celf yn 15 oed ac fe barodd yn athro hyd ei oes, yn dysgu mewn amryw o ysgolion a cholegau celf a swyddi. Gweithiodd gyda Malevich yn arwain y grŵp celfyddydol suprematist UNOVIS, a datblygodd steil suprematist ei hun, sef Proun.
Yn dilyn Chwyldro Rwsia cymerodd swydd yn 1921 fel llysgennad diwylliannol i Weriniaeth Weimar, Yr Almaen, yn gweithio gyda'r mudiadau Bauhaus a De Stijl.
Dychwelodd i'r Undeb Sofietaidd a fu'n arloeswr ym maes dylunio graffig yn torri tiroedd newydd mewn teipograffiaeth, photomontage a dylunio arddangosfeydd gan ddenu edmygedd mawr trwy'r byd celf rhyngwladol. Hyd yn oed ar ei wely angau yn 1941 fe gynlluniodd boster popaganda Sofietaidd yn annog gweithwyr i adeiladu rhagor o danciau yn y rhyfel yn erbyn Natsïaeth.[2] '
Er i lywodraeth Stalin wahardd gwaith haniaethol ac hyd yn oed erlid llawer o'r arlunwyr haniaethol fe lwyddodd El Lissitzky i gadw ar ochr iawn y gyfundrefn [3].
Un o bosteri enwocaf Lissitzky yw Curwch y Gwynion gyda'r Lletem Goch (Клином красным бей белых!), 1919, poster propaganda comiwnyddol sydd yn defnyddio elfennau a syniadaeth suprematism. Mae'r cynllun yn cyfleu'i neges yn bennaf gyda ffurfiau haniaethol yn hytrach na geiriau gan roedd lefel uchel o anllythrennedd ymhlith pobl yr Undeb Sofietaidd ar y pryd.
Yn y poster mae'r siâp miniog coch yn cynrychioli'r lluoedd 'cochion' Bolsieficaidd a oedd yn ymladd yn erbyn y lluoedd 'gwynion' brenhinol yn Rhyfel Cartref Rwsia. Mae'r siâp coch caled yn torri mewn a thyllu trwy'r siâp gwyn crwn i gyfleu ymosodiad a buddugoliaeth y cochion.[4]
Rhestr catalog arwerthiant Swann Galleries yn cynnwys gwaith El Lissitzky.